Ail-lansio apêl am wybodaeth i ddiflaniad bachgen o Gastell-nedd yn 2002
Mae Heddlu De Cymru wedi ail-lansio eu hapêl am wybodaeth am ddiflaniad bachgen o Gastell-nedd a ddiflannodd yn 2002.
Fe aeth Roberts Williams ar goll o'i gartref yn Resolfen yn 15 oed ar 22 Mawrth 2002.
Er ymholiadau helaeth a sawl apêl am wybodaeth gan swyddogion yr heddlu dros y 21 mlynedd ddiwethaf, nid yw erioed wedi cael ei ddarganfod.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dai Butt: "Mae pob achos person coll sydd heb ei ddarganfod yn parhau yn agored ac rydym yn ail-weld â nhw o bryd i'w gilydd rhag ofn bod tystiolaeth newydd wedi dod i'r wyneb. Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddarganfod beth ddigwydd i Robert.
"Dwi'n credu fod gan cymuned leol Aberdulais wybodaeth allweddol a all ein helpu i ddeall beth ddigwyddodd iddo."
'Eisiau ei gorff yn ôl'
Fe aeth Robert i barti mewn tŷ yn Nhair Felin, Aberdulais ar 23 Mawrth 2002 ac roedd pobl leol eraill yn bresennol.
Ychwanegodd y Ditectif Arolygdd Butt: "Os yr oeddech chi yn y parti neu gydag unrhyw wybodaeth am symudiadau neu ddiflaniad Robert, hoffem ni siarad gyda chi.
"Fe all ymddangos yn heriol i gofio manylion o 21 mlynedd yn ôl, ond does dim ots pa mor ddi-nod yr ydych chi'n teimlo ydi'r wybodaeth, gall fod yn hanfodol i'n hymchwiliad a helpu i gynnig atebion i deulu Robert."
Dywedodd mam Robert Cheryl: "Dwi'n gwybod na fydd Robert fyth yn dod adref. Ond dwi eisiau ei gorff yn ôl fel y gallaf ei gladdu. Mae'n haeddu hynny.
"Mae rhywun yn gwybod beth ddigwyddodd iddo. Mae gwybod fel mam fod fy mhlentyn yn gorwedd yn rhywle wedi fy ninistrio yn emosiynol a chorfforol. Dwi angen gwybod beth ddigwyddodd iddo."
Mae Hedldu De Cymru yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300271756.