Yr economi yn gwanhau mwy na'r disgwyl fis Gorffennaf
Yn annisgwyl, fe grebachodd economi'r Deyrnas Unedig yn sydyn fis Gorffennaf, yn ôl ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi.
Mae'n ymddangos fod hynny yn rhannol oherwydd y streiciau a gafodd eu cynnal ar y pryd, yn ogystal â'r tywydd gwlyb.
Yn ôl data gan y Swyddfa Ystadegau, roedd y ffigyrau GDP yn dangos fod yr economi wedi crebachu 0.5%.
Roedd economegwyr wedi darogan mai 0.2% fyddai'r gostyngiad.
Fis Mehefin, fe dyfodd yr economi 0.5%.
Dywedodd cyfarwyddwr ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau, Darren Morgan: “Roedd ein hamcangyfrif ar gyfer Gorffennaf yn dangos fod y ffigyrau GDP wedi gostwng, ond mae'r darlun ehangach yn fwy cadarnhaol, gyda'r economi yn tyfu ar hyd a lled amrywiol wasanaethau, ac yn y maes cynhyrchu ac adeiladu yn ystod y tri mis diwethaf."
“Fis Gorffennaf fe effeithiodd streiciau ar wasanaethau, ac roedd yn fis gwanach ym maes adeiladu a siopau'r sryd fawr, oherwydd y tywydd gwael."
Wrth ymateb, dywedodd y Canghellor Jeremy Hunt: "Dim ond drwy haneru chwyddiant y gallwn ni sicrhau twf cynaliadwy a chodiadau cyflog sydd eu hangen.
"Ond mae yna sawl rheswm i fod yn hyderus am y dyfodol. Roeddem ni ymysg y gwledydd G7 cyflymaf i wella o'r pandemig ac mae'r IMF (Cronfa Ariannol Ryngwladol) wedi dweud y byddwn ni'n tyfu yn gyflymach na'r Almaen, Yr Eidal a Ffrainc yn y tymor hir."