Newyddion S4C

Pum siop yng Nghymru ymhlith y 71 o siopau Wilko sydd wedi eu prynu gan Poundland

13/09/2023
Siop Wilko

Wedi i berchennog siopau Poundland gyhoeddi ddydd Mawrth eu bod yn prynu 71 o siopau o gwmni Wilko yn y DU, mae hi wedi dod i'r amlwg fod pum siop yng Nghymru yn eu plith.

Mae cwmni Wilko bellach wedi mynd i'r wal, gyda'r gweinyddwyr yn cadarnhau y bydd pob un o'r gweithwyr, gan gynnwys gweithwyr siopau a chanolfannau cymorth, yn colli eu swyddi.

Fe wnaeth cwmni Pepco daro bargen gyda’r gweinyddwyr PwC ddydd Mawrth er mwyn prynu nifer o'r siopau ar draws y DU. 

Mae'r pum siop yng Nghymru a fydd ym meddiant perchennog Poundland yn Aberdâr, Cas-gwent a Phont-y-pŵl yn y de ddwyrain, Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin, a Doc Penfro. Roedd 28 o siopau Wilko yng Nghymru.  

Gyda disgwyl i gannoedd o bobl golli eu swyddi, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Poundland, Barry Williams, ei fod yn awyddus i sicrhau y bydd nifer o gyn-weithwyr Wilko yn ymuno â Poundland yn y safleoedd newydd. 

“Mae gweithwyr Wilko wedi bod yn werthfawr iawn i gymunedau ledled y DU ac rydym yn edrych ymlaen at gynnig cyfleodd er mwyn iddyn nhw ymuno â’n teulu,” meddai.

Mae cwmni B&M eisoes wedi taro bargen i brynu hyd at 51 o safleoedd eraill Wilko hefyd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.