Trafod deiseb i brynu cartref Owain Glyndŵr
Bydd dadl yn cael ei chynnal yn y Senedd ddydd Mercher yn sgil deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Sycharth, cartref Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr.
Roedd Sycharth yn blasty pren ac yn gartref iddo tan 1403, pan gafodd ei losgi gan filwyr brenin Lloegr.
Mae pryder am gyflwr y safle yng ngogledd Powys wedi arwain at alwadau iddo fod yng ngofal perchnogaeth gyhoeddus, er mwyn ei gadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ym mis Medi y llynedd, fe ddaeth galwad gan aelod o bwyllgor gweithredu Cymdeithas Owain Glyndŵr yn sgil pryderon diweddar am gyflwr safle Sycharth.
Mae ymwelwyr hefyd wedi dweud y gellid gwneud mwy i wella'r ardal o amgylch y twmpath sy'n weddill.
Mae Sycharth yn safle rhestredig, ond mae ar dir preifat. Yn ôl Cadw - y corff sy’n diogelu safleoedd hanesyddol, y tirfeddianwyr sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r safle.
Dywedodd Cadw y llynedd eu bod yn gwneud gwelliannau gyda chydweithrediad perchennog y tir.
Mae dros 10,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb. Mae'r trefnwyr yn dweud mai'r nod yw “sicrhau bod y safle hollbwysig yma'n cael ei gadw'n saff i'r genhedlaeth nesaf, drwy ei brynu a'i wneud yn fwy hygyrch i bobl allu mynd yno i werthfawrogi'r safle.”