
Cyfle olaf i drigolion Gwynedd leisio barn ar gynllun dadleuol ail gartrefi
Cyfle olaf i drigolion Gwynedd leisio barn ar gynllun dadleuol ail gartrefi
Gydag ymgynghoriad Cyngor Gwynedd yn dod i ben ddydd Mercher, mae'n gyfle olaf i drigolion y sir leisio barn ar gynllun dadleuol a fyddai'n gorfodi unrhyw un fyddai am droi cartref yn dŷ gwyliau i wynebu cais cynllunio.
Mae cynllun erthygl 4 wedi ei ddisgrifio fel un a fyddai'n gwarchod cymunedau'r sir yn ôl y cyngor, ond mae rhai yn poeni y gallai'r mesur effeithio ar brisiau tai pobl leol a gwthio'r broblem ail gartrefi i ardaloedd eraill.
Un elfen gadarnhaol yw hon yn rhan o becyn ehangach o fesurau i'w gwneud hi’n anoddach i droi cartrefi yn dai gwyliau, yn ôl Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd, Craig ab Iago.

Ond yn ôl grŵp sy’n gwrthwynebu’r cynllun o'r enw Trigolion Gwynedd yn Erbyn Erthygl 4, byddai’r mesur yn arwain at gwymp ym mhrisiau tai trigolion Gwynedd ac yn cosbi bobl leol.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae nhw eisiau clywed barn trigolion ar y mesur sydd o dan ystyriaeth. Mae'r awdurdod yn dweud bod yn rhaid gweithredu, er mwyn sicrhau bod bobl leol yn medru aros yn eu cymunedau.
Fe gafodd Cynghorau sir ledled Cymru mwy o bwerau gan Lywodraeth Cymru i reoli niferoedd ail gartrefi yn Hydref 2022.
Mae Gwynedd eisoes wedi cynyddu’r dreth sy’n cael ei chodi ar ail gartrefi i 150% ond yn dweud y byddai cyflwyno erthygl 4 yn “arf arall” wrth fynd i’r afael a’r broblem.
Ond mae’r cynllun, sydd o dan ystyriaeth yn unig ar hyn o bryd, eisoes yn profi’n ddadleuol gyda grwpiau ar wefannau cymdeithasol wedi eu sefydlu er mwyn dadlau o blaid neu yn erbyn y syniad.
Un sy’n gwrthwynebu’r cynllun ydi Dafyn Jones sydd wedi ei eni a’i fagu ym Mhen Llŷn.
“Mae hyn mwy am optics a gesture politics na gwneud rhywbeth am bobl leol a chreu tai i bobl leol”.
“Ers talwm, doedd 'na’m tai cymdeithasol neu digon o social housing”, meddai.

"Problem yn symud i ardaloedd cyfagos"
Mae’r grŵp Trigolion Gwynedd yn Erbyn Erthygl 4 hefyd yn dweud y gallai cyflwyno erthygl 4 achosi cwymp ym mhrisiau tai cyfartalog y sir ac y gallai’r mesur gosbi'r bobl leol.
Mae Mr Jones yn deall bod ail gartrefi yn ei gwneud hi’n anodd i bobl leol brynu tai ond yn mynnu mai codi tai mewn mannau addas sydd ei angen.
Mae’n ychwanegu y gallai cyflwyno’r mesur hefyd arwain at y broblem yn symud i ardaloedd neu siroedd cyfagos.
"Cam-wybodaeth"
Ond mynnu mae’r deilydd portffolio dros dai ar y Cyngor, Y Cynghorydd Craig ab Iago y byddai’r mesur yn gweithio fel rhan o becyn ehangach o fesurau.
“Da ni’n gorfod gwneud bob dim ‘da ni’n gallu gwneud efo bob tool ‘da ni efo.... Ydio’n mynd i ddatrys y broblem? Na, dydio o ddim, ond mae o ar y ffordd i ddatrys y broblem”.
“Be ‘da ni angen ydi system dai newydd ond ‘da ni methu rheoli hynny yma yng Nghyngor Gwynedd”.
Mae’r Cynghorydd Craig ab Iago hefyd yn dweud bod tipyn o “gam-wybodaeth’ am y pwnc ar-lein a bodd angen bod yn glir o’r ffeithiau.
Yn ôl gwaith ymchwil Cyngor Gwynedd roedd gostyngiad 0 344 yn nifer y cartrefi domestig rhwng 2018-2022.
Ac roedd cynnydd 0 1266 yn nifer cyfunol yr ail gartrefi a llety gwyliau.
Mewn ardaloedd fel Aberdaron ym Mhen Llŷn, mae 30% o dai yn gartrefi gwyliau. Gyda chyflogau trigolion ar gyfartaledd yn £26,000 mae 96% o bobl yno wedi eu prisio allan o’r farchnad, medd gwaith ymchwil y Cyngor.
Mai’n stori debyg mewn llefydd fel Abererch, Abersoch a Llanengan a nifer o gymunedau eraill.
Un sy’n teimlo effaith prisiau tai uchel a diffyg stoc dai ydi Reece Halstead sy’n 26 ac o Benisarwaun yng Ngwynedd.
“Dwi’n gweithio ym Mhen Llŷn a ‘da ni eisiau tourism, ond ma’n anodd i bobl leol”.
“Dwi’n 26 a dwi’n trio prynu tŷ newydd ond dwi’m yn gallu ar hyn o bryd”, meddai.
Wrth drafod erthygl 4, mae’n dweud y byddai’n bolisi da "os yn gweithio" ond yn dweud “y bydd yn cymryd amser dwi’n meddwl”.
Wrth i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, mae Cyngor Gwynedd yn dweud y byddan nhw’n pori drwy’r holl gyfraniadau i gael darlun clir o farn y bobl.