Newyddion S4C

Llawfeddygon benywaidd y GIG yn dioddef ymosodiadau ac aflonyddu rhywiol

12/09/2023
Llawfeddygon

Mae bron i un o bob tair llawfeddyg benywaidd sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd wedi dioddef ymosodiad rhyw, yn ôl arolwg newydd.

Fe gafodd 11 achos o dreisio eu hadrodd gan lawfeddygon a wnaeth ymateb i’r arolwg a gafodd ei gyhoeddi yn y British Journal of Surgery.

Roedd 29% o fenywod wedi cael profiad o aflonyddu corfforol yn y gwaith, gyda 40% yn derbyn sylwadau am eu cyrff a 38% wedi derbyn sylwadau o natur rywiol.

Roedd bron i 90% o ferched wedi bod yn dyst i gamymddygiad rhywiol yn y pum mlynedd diwethaf, gyda 81% o ddynion yn rhoi'r un ymateb.

Yn ôl yr adroddiad: “Mae camymddygiad rhywiol yn digwydd yn aml ac yn mynd heb gael ei herio yn yr amgylchedd llawfeddygol, gyda chyfuniad o strwythur hierarchyddol ac anghydbwysedd rhywedd a phŵer.

“Y canlyniad yw amgylchedd gwaith sydd ddim yn ddiogel a gofod sydd ddim yn ddiogel i gleifion.”

'Gwarthus'

Cafodd yr arolwg ei gasglu gan Brifysgol Caerwysg a’i gomisiynu gan The Working Party on Sexual Misconduct in Surgery – sef grŵp o lawfeddygon y Gwasanaeth Iechyd, clinigwyr ac ymchwilwyr sydd yn dweud eu bod yn “gweithio i godi ymwybyddiaeth am gamymddwyn rhywiol mewn llawfeddygaeth, er mwyn annog newid diwylliannol a sefydliadol”.

Mewn erthygl yn The Times, dywedodd y Llawfeddyg Ymgynghorol Tamzin Cuming fod yr adroddiad yn cyflwyno rhai o’r “ffeithiau fwyaf gwarthus erioed i gael eu datgelu” am y lle gwaith, sydd yn cynrychioli “moment MeToo ar gyfer llawfeddygaeth”.

Roedd y llawfeddyg hefyd yn galw am sefydlu panel cenedlaethol er mwyn rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith, gan alw ar achosion o gam-drin rhywiol i gael eu hymchwilio yn annibynnol.

“Mae ein hymchwil yn dangos amgylchedd ble mae ymosodiadau rhywiol, aflonyddu a threisio yn gallu digwydd ymysg staff sy’n gweithio yn y maes llawfeddygaeth, ond sy’n cael eu hanwybyddu oherwydd bod y system yn diogelu’r rhai sydd yn gyfrifol am yr ymddygiad, yn hytrach na’r rhai sy’n cael eu heffeithio.

“Mae angen gweithredu ar unwaith er mwyn newid y ffordd mae’r maes gofal iechyd yn ymchwilio ei hun.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.