Rhybudd melyn am law i ddwy sir yn y gogledd
12/09/2023
Mae’r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law ar gyfer dwy sir yng ngogledd Gymru ddydd Mawrth.
Fe fydd y rhybudd am law, a fydd yn drwm ar adegau, yn dod i rym am 01:00 fore dydd Mawrth, ac fe fydd yn parhau hyd at 13:00.
Sir y Fflint a Wrecsam yw’r ardaloedd sydd wedi eu cynnwys yn y rhybudd.
Mae disgwyl i rhwng 20-30mm o law ddisgyn ar draws yr ardal yn ystod y dydd, gyda rhai mannau uchel yn cael rhwng 40-50mm.
Mae'r swyddfa dywydd yn rhybuddio y gallai’r tywydd achosi llifogydd mewn rhai cartrefi.
Fe allai hefyd arwain at broblemau trafnidiaeth gyhoeddus i ddefnyddwyr trenau a bysus.