'Popeth yn iawn' medd Aaron Ramsey ar ôl gorfod gadael y cae yn erbyn Latfia
Mae capten pêl-droed Cymru Aaron Ramsey wedi dweud y bydd ar gael i chwarae yng ngêm ddarbi de Cymru nos Sadwrn wedi iddo orfod gadael y cae ar ddechrau'r ail hanner i Gymru nos Lun.
Bydd Caerdydd yn wynebu Abertawe yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45 nos Sadwrn.
Gadawodd Ramsey y cae ychydig funudau wedi i'r ail hanner ddechrau yn y gêm yn erbyn Latfia yn Riga.
Roedd ei gôl yn yr hanner cyntaf a gôl David Brooks ar ddiwedd y gêm yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth hollbwysig i dîm Rob Page yn rowndiau rhagbrofol Euro 2024.
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Ramsey: "Bach o precaution, ond roeddwn i'n gwybod fydd e'n tipyn bach o effaith yn yr ail hanner oherwydd maen nhw'n chwarae yn eithaf direct felly ddim yn cymryd unrhyw siawns so fydd popeth yn iawn ar y penwythnos."
Ychwanegodd: "Roedd e ddim yn hawdd i ddod yma, mae llawer o timau wedi stryglo bach a felly i ddod yma ac ennill y gêm, gyda dau gôl ffantastig, Brooksy hefyd, mae'n ddiwrnod da i ni.
"O't ti'n gallu gweld gyda gyd o'r ffans yn canu can e - mae mor bwysig i ni a mae mor neis i fe i sgorio, ni jyst yn hapus iawn i cael e nôl."