Gallai ymbellhau cymdeithasol aros tan ddiwedd 2021

Fe allai pellhau cymdeithasol aros yng Nghymru hyd at ddiwedd y flwyddyn, yn ôl y Prif Weinidog.
Yn siarad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, dywedodd Mark Drakeford: "Credaf fod pellhau cymdeithasol yn parhau i fod yn un o'r amddiffynion cryfaf sydd gennym...
"Rwy'n credu y bydd yn parhau i fod yn rhan o'n patrwm yma yng Nghymru, yn ystod gweddill yr haf, efallai i mewn i weddill eleni."
Dywedodd Mr Drakeford y gallai pellhau cymdeithasol ddod yn gyngor yn hytrach na gofyn cyfreithiol, ond y byddai hynny'n dibynnu ar welliannau yn y sefyllfa yng Nghymru, yn ôl ITV Cymru.
Darllenwch y stori'n llawn yma.