Chwe bwrdd iechyd yng Nghymru 'methu â chyflawni’r ddyletswydd i fantoli eu cyfrifon'
Mae chwech o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru wedi 'methu â chyflawni’r ddyletswydd i fantoli eu cyfrifon dros gyfnod o dair blynedd' yn ôl adroddiad gan Archwilio Cymru.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Compton fod methu â gwneud hyn yn golygu fod y sefydliadau wedi gwario mwy na'r hawl sydd ganddynt i'w wario.
Y byrddau iechyd a wnaeth fethu â mantoli eu cyllidebau oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae hyn yn golygu mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd yr unig un i gyflawni'r ddyletswydd, ond dywed yr Archwilydd Cyffredinol fod 'ansicrwydd o hyd' o ran union incwm a gwariant y bwrdd dros y cyfnod, a'r gwallau na chafodd eu cywiro yng nghyfrifon 2021-22.
O ganlyniad, nid oedd modd i'r Archwilydd Cyffredinol ddod i'r casgliad fod gwariant 2023/23 'wedi ei ddatgan yn deg'.
Yn sgil hyn, mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi amod ar ei farn ar gyfrifon pob un o'r saith Bwrdd Iechyd ar gyfer 2022-23.
Cyllid
Fe gafodd y gwasanaethau iechyd yng Nghymru gyllid refeniw o £9.894 biliwn yn 2023-23, oedd yn gynnydd o £131 miliwn mewn arian parod yn yr un cyfnod, ond yn llai na'r cynnydd o £175 miliwn yn 2021-22.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol fod cyfanswm y diffyg yn y flwyddyn hon hefyd wedi cynyddu i £150 miliwn yn ogystal â'r gorwariant dros y dair blynedd ar draws y gwasanaeth iechyd wedi cynyddu o £185 miliwn yn 2021-22 i £248 miliwn yn 2022-23.
Ond ychwanegodd fod yr arbedion wedi cynyddu eto yn 2022-23, fel ag y gwnaeth y 2021-22 ond mae'n parhau i fod ar lefel is nag yn 2018-19.
'Allweddol'
Yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, bydd "cynllunio strategol yn allweddol i gyflawni trawsnewidiad y GIG" ac yn sgil y sefyllfa ariannol bresennol, fe fydd hi'n gynyddol anodd i sefydliadau'r gwasanaeth iechyd i "gynhyrchu cynlluniau ariannol mantoledig."
Ychwanegodd: "Er fy mod yn cydnabod graddfa’r heriau ariannol a gweithredol sy'n wynebu'r GIG, rwy'n pryderu am orfod cynnwys amod ar fy marn archwilio ar gyfrifon pob un o'r saith Bwrdd Iechyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn oherwydd eu bod wedi methu â chyflawni'r ddyletswydd statudol sydd mewn deddfwriaeth gan y Senedd, i fantoli eu cyllideb dros gyfnod o dair blynedd."