Newyddion S4C

'Colli hanes y clwb': Tân mewn ystafelloedd newid clwb pêl-droed yng Ngwent

11/09/2023
Tân Rhisga

Mae’r heddlu yn cynnal ymholiadau ar ôl i dân achosi difrod i adeilad ac ystafelloedd newid clwb pêl-droed yng Ngwent.

Fe gafodd Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Barc Tŷ Isaf ym Mhont-y-meistr, Rhisga tua 05.30 fore dydd Llun yn dilyn adroddiadau o dân.

Mae to'r adeilad wedi dymchwel ac mae pryderon am offer yn yr adeilad, wrth i ymchwiliadau’r heddlu a swyddogion tân barhau.

Dyma’r trydydd tân ar y maes eleni, wedi adroddiadau fod biniau a seddi o’r eisteddle wedi cael eu rhoi ar dân ym mis Ebrill, a dwy goeden wedi eu llosgi fis Mehefin.

Dywedodd ysgrifennydd CPD Risca United, Stuart Lockwell: “Rydw i’n sefyll yn y maes parcio yn edrych ar beth oedd arfer bod yr ystafelloedd newid.

“Mae’r heddlu yn ceisio darganfod achos y tân ond does dim amheuaeth yn fy mhen i.

“Mae’r to wedi mynd yn gyfan gwbl ac mi fydd ‘na lot o offer y tu mewn bydd wedi ei ddifetha – citiau, peli, offer hyfforddi.

“Ond ein pryder mwyaf yw’r cabinet tarianau, sydd â lot fawr o luniau o hanes y clwb, sydd yn dyddio yn ôl hyd at y 1920au. Os mae’r rheini wedi mynd, fydden ni wedi colli hanes y clwb hefyd.”

Pryderon

Mae pryderon ynglŷn â dyfodol ail dîm Risca United yn sgil y tân, gan na fydd modd chwarae eu gemau heb y cyfleusterau.

Roedd tîm newydd, Risca Town, hefyd am chwarae eu gemau ym Mharc Tŷ Isaf, gyda’u gêm gartref gyntaf wedi ei threfnu ar gyfer dydd Sadwrn.

“Ein problem gyntaf yw, lle mae ein hail dîm yn chwarae am weddill y tymor?” ychwanegodd Mr Lockwell.

“Dyma eu cartref felly ni fyddan nhw’n gallu chwarae yma.

“Bydd rhaid i ni ganfod rhywle newydd neu bydd rhaid i ni dynnu allan o’r gynghrair, gan nad oes gennym unrhyw le i chwarae. Mae hyn yn cael effaith mawr ar dîm Risca Town hefyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: “Fe wnaethon ni dderbyn adroddiad o dân yn Heol Isaf, Pontymister, tua 05.30 ddydd Llun 11 Medi.

“Mae ymholiadau’n parhau a gall unrhyw un sydd â gwybodaeth, gan gynnwys teledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd, ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu cyfeirnod log 2300307119.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.