Newyddion S4C

Cyfraddau sbwriel 'ar gynnydd' ers llacio rheolau

05/06/2021
Sbwriel

Mae cyfraddau sbwriel Cymru "wedi cynyddu" wrth i gyfyngiadau Covid-19 leddfu, yn ôl un o gyrff amgylcheddol Cymru.

Daw'r rhybudd gan Cadwch Gymru'n Daclus ar Ddiwrnod Byd-eang yr Amgylchedd.

Dywedodd y grŵp fod "gweithredoedd lleiafrif wedi cael effaith negyddol ar fwynhad pawb o fyd natur".

Yn ôl Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: “Rydyn ni i gyd wedi gweld eisiau ein hoff lefydd yn ystod y cyfnod clo. Wrth i ni fynd yn ôl allan, mae'n hanfodol bod ein parciau gwerthfawr, ein mannau gwyrdd a'n traethau'n cael eu cadw'n lân ac yn ddiogel i bawb eu mwynhau. 

“Mae gan bawb ran i’w chwarae. Nid yw'n dderbyniol disgwyl i rywun arall godi'r sbwriel rydych chi'n ei greu.

“Pan fyddwch chi allan, gwnewch atgofion, nid llanast - os yw'r biniau'n llawn, ewch â'ch sbwriel adref".

Roedd addewid gan Lafur Cymru yn eu maniffesto i ddeddfu er mwyn atal y defnydd o blastigau sydd ond yn gallu cael eu defnyddio unwaith. 

Mae'r blaid fwyaf yn y Senedd hefyd wedi addo cyflwyno cyfrifoldeb cynhyrchydd ehangach i annog busnesau i leihau gwastraff. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.