Cymru yn dechrau rhaglen frechu am Covid a’r ffliw
Mae Cymru a Lloegr wedi ailddechrau ar eu rhaglen frechu am Covid a’r ffliw ddydd Llun.
Cyhoeddwyd bythefnos yn ôl y byddai'r rhaglen yn dechrau ynghynt na’r disgwyl wedi i amrywiolyn newydd o Covid, BA.2.86, gael ei ddarganfod yn y DU.
Bydd y rhaglen yn dechrau drwy frechu preswylwyr cartrefi gofal.
Mae’r Alban eisoes wedi dechrau brechu a bydd Gogledd Iwerddon yn cychwyn ar 18 Medi.
Prif nod y rhaglen frechu yn erbyn Covid-19, fel arfer, yw hybu imiwnedd y rhai hynny sydd mewn mwy o berygl yn sgil Covid-19.
‘Blaenoriaeth’
Mewn datganiad wrth gyhoeddi’r rhaglen frechu dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan bod yr amserau a dewis y brechlyn yn cael ei arwain gan farn y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).
“Yn unol â'r egwyddor y dylai amseroldeb gael blaenoriaeth dros y dewis o frechlyn, ac yn wyneb ymddangosiad diweddar amrywiolyn newydd sy’n peri pryder (BA.2.86), bydd y gwaith o gyflwyno rhaglen frechu’r gaeaf yn erbyn firysau anadlol yn dechrau ar 11 Medi yng Nghymru,” meddai.
Ychwanegodd y bydd yn “rhoi blaenoriaeth i ddiogelu’r grwpiau sy’n wynebu’r risg fwyaf”.
“Bydd y rhaglen yn dechrau drwy frechu preswylwyr cartrefi gofal gan ddefnyddio’r stoc bresennol o frechlynnau,” meddai.
Dywedodd fod gwaith cynllunio ar y gweill ers amser gan sefydliadau'r GIG yng Nghymru er mwyn paratoi ar gyfer rhaglen yr hydref a bydd apwyntiadau’n cael eu hanfon dros yr wythnosau nesaf.