Byrgyrs gwiwerod yn troi ‘problem’ i mewn i ‘fwyd’ meddai ffarmwr teledu
Byrgyrs gwiwerod yn troi ‘problem’ i mewn i ‘fwyd’ meddai ffarmwr teledu
Roedd pobol ‘werth eu bodd’ gyda byrgyrs gwiwerod mewn ffair fwyd ar Ystâd y Faenol, ger Bangor, yn ôl ffermwr sy’n gyflwynydd teledu.
Roedd Gareth Wyn Jones yn rhedeg bwyty dros dro Cwtch Kitchen yn Ffair Gȇm Cymru ddydd Sul.
Dywedodd wrth Newyddion S4C fod coginio gwiwerod yn troi “problem” i mewn i “fwyd”.
“Dw i wedi bod mewn yn y marcî ac mae wedi bod yn wych - dw i wedi bod yn coginio gwiwer lwyd,” meddai.
“Mae pobol wedi bod wrth eu bodd.
“Mae hwn mor bwysig i gael y neges allan yna i bobol ddallt, da ni’n gallu tynnu'r anifeiliaid yma sy’n creu problemau i ni yng nghefn gwlad a gwneud bwyd ohonyn nhw.
“Ac mae’r wiwer lwyd yn broblem yn fy meddwl i - mae’n broblem i’r wiwer goch ac mae’r broblem i adar bach.
“Mae’n broblem i hogiau sy’n plannu coed. Ma’ rhain yn dipyn o boen i lawer iawn o bobl.
“Wedyn fel ffarmwr a rhywun sy’n licio saethu oni’n meddwl bod o’n dod a’r ddau efo’i gilydd.
“Rhaid i ni fynd yn ôl i wneud mwy o bethau fel yma - i bobl ddallt lle mae eu bwyd yn dod o.
“Yn dymhorol mae’n bwysig iawn hefyd. Mae’r wiwer lwyd rownd y lle drwy’r flwyddyn, a dan ni’n allu eu saethu nhw a’u bwyta nhw.
“A bob gwiwer lwyd da ni’n ei dynnu allan da ni’n gallu rhoi tŷ a lle i wiwer goch ac mae hwnna’n bwysig iawn.”
‘Creulon’
Mae Gareth Wyn Jones wedi derbyn cryn feirniadaeth am ei syniad o goginio byrgyrs gwiwerod, gyda rhai yn dadlau mae cynllun i gael sylw yw’r cwbl.
Mae mudiad PETA hefyd wedi ei feirniadu gan ddweud fod yr arfer yn “greulon”.
Dywedodd Eliza Allen o’r sefydliad hawliau anifeiliaid, PETA: “Mae’r rhan fwyaf o bobl wrth ein bodd yn gweld gwiwerod mewn coed yn y parc nid ar blât.
“Mae’r hyn mae Gareth ei eisiau yn llythrennol yn golygu saethu wiwerod neu eu curo i farwolaeth.
“Mae hynny'n greulon. Mae'n gwbl ddiangen. Nid oes angen i ni ladd anifeiliaid er mwyn bwyta. Nid byrgyrs na selsig yw anifeiliaid. Maen nhw'n fodau byw sy'n haeddu byw."
Ond dywedodd Gareth Wyn Jones fod llawer o’r feirniadaeth yn dod gan bobol nad oedd yn deall sut oedd y bwyd ar eu platiau yn cael ei gynhyrchu.
“Mae pobol sy’n meddwl bod bob dim yn greulon. Di nhw’m yn dallt, bob tro maen nhw’n byta, mae rhywbeth ‘di marw.
“Dim ots be ti’n byta, be ydi dy ddeiat di, mae ‘na rywbeth yn cael ei ladd i chdi gael byta. So s'gen i’m amser efo nhw.
“Mae’n rhaid iddyn nhw ddechrau dysgu mai’r ffarmwr sy’n feedio nhw sy’n gwybod be sy’n marw iddyn nhw’n cael bwyta.”