Arestio dau ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Llanelli
Mae’r heddlu wedi arestio dau ddyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Llanelli.
Bu farw dyn yn ardal Maestir y dref yn oriau mân y bore ddydd Sul, medden nhw.
Dywedodd yr heddlu bod dau ddyn yn y ddalfa ar amheuaeth o’i ladd.
“Bydd rhagor o heddlu yn y gymuned am y tro,” meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu cyfeirnod DP-20230910-089.