Newyddion S4C

Ysgol i aros ar gau am 10 diwrnod oherwydd pryder am amrywiolyn Delta

04/06/2021
Ysgol Goetre
Ysgol Goetre

Bydd ysgol ym Merthyr Tudful yn parhau ar gau am 10 diwrnod oherwydd pryderon am achosion posib o amrywiolyn Delta.

Bydd Ysgol Goetre ar gau tan ddydd Llun 14 Mehefin fel cam rhag ofn, yn ôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Mae canolfan brofi ychwanegol wedi cael ei agor gerllaw'r ysgol er mwyn ceisio helpu i adnabod achosion o'r feirws.

Dywedodd y Cyngor fod ymwelydd â'r ysgol ar ddydd Gwener 28 Mai, yn ystod diwrnod hyfforddiant athrawon, wedi profi'n bositif gydag amrywiolyn Delta.

Nid oedd disgyblion yn bresennol ar y safle.

Mae'r ysgol wedi cael ei glanhau'n drylwyr ac mae holl staff dysgu a chynorthwyol yr ysgol yn gorfod hunan-ynysu tan ddydd Gwener 11 Mehefin.

Amrywiolyn Delta, a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India, yw'r prif straen o'r feirws yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn ac mae'r Cyngor yn awyddus i gymryd gofal.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Mytton: "Cyn gynted a chafwyd pryderon ynghylch unrhyw achosion positif posib, cafodd y mesurau rheoli angenrheidiol eu rhoi ar waith".

Ychwanegodd: "Nid yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd, yn enwedig gydag ysgolion wedi bod ar gau cymaint yn ystod y deuddeg mis diwethaf.  Ond, fe fydd diogelwch ein pobl ifanc a'n staff bob amser yn dod yn gyntaf".

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.