Diffodd tân ar gwch ym Marina Conwy
Fe wnaeth yr heddlu ofyn i’r cyhoedd osgoi’r ardal o amgylch Marina Conwy ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw ymateb i dân ar gwch yno.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl i fwg gael ei weld yn codi i’r awyr am 18.00.
Dywedodd yr heddlu bod Timau Achub Gwylwyr y Glannau Bangor a Llandudno a badau achub o Gonwy a Llandudno wedi ymateb i’r alwad.
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yno.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd eu bod nhw’n delio gyda’r sefyllfa ac mae’r llu wedi gofyn i bobl gadw draw "er mwyn i’r gwasanaethau brys barhau gyda’u gwaith".
Dywedodd y gwasanaeth tân yn ddiweddarach fod y cwch bellach wedi ei ddiffodd.
Llun gan Manon Llwyd Evans.