Y Bala: Galw ar bobl i ddiogelu eu heiddo rhag lladron wedi i bedwar adeilad gael eu targedu
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi galw ar bobl i ddiogelu eu heiddo yn dilyn pedair byrgleriaeth yn ardal y Bala.
Fe gafodd pedwar adeilad eu targedu rhwng 3 a 7 Medi, gyda modur a batri o gwch, beic pedair olwyn a fan Mercedes yn cael eu dwyn.
Maen nhw hefyd yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu sydd â thystiolaeth ar gamera cerbyd i gysylltu â nhw drwy ddefnyddio cyfeirnod A144105.
"Cafodd eitemau drud, yn cynnwys modur a batri o gwch, beic pedair olwyn a fan Mercedes eu dwyn," meddai'r heddlu.
"Rydym yn cynghori perchnogion busnesau i gymryd camau i ddiogelu eu hadeiladau a'u cerbydau.
"Rydym yn apelio ar i unrhyw un gyda gwybodaeth, neu sydd â thystiolaeth ar gamera cerbyd, i gysylltu â'r heddlu."