Newyddion S4C

Cau pwll nofio Caernarfon oherwydd RAAC

08/09/2023
Canolfan hamdden Caernarfon

Mae rhan o ganolfan hamdden Caernarfon wedi ei gau ddydd Gwener oherwydd concrid diffygiol.

Dywedodd Byw’n Iach Gwynedd, y cwmni sy’n rheoli’r ganolfan hamdden, fod concrit RAAC wedi ei ddarganfod yn rhan o do'r pwll nofio.

Nid oes tystiolaeth o’r deunydd mewn rhannau eraill o’r adeilad na’r safle yn ehangach, medden nhw.

Cafodd y pwll nofio ei gau brynhawn Gwener a bydd yn aros ar gau tra bydd ymchwil pellach i’r strwythur.

Mi fydd gweddill yr adeilad a’r safle yn parhau ar agor fel arfer, medden nhw.

“Mi fydd gwaith ymchwil pellach yn cael ei drefnu wythnos nesaf i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa ac i adnabod y datrysiad gorau,” meddai Byw’n Iach Gwynedd.

“Mi fydden ni wrth gwrs yn gweithio i ail agor y pwll mor fuan â phosib mewn modd diogel.”

Image
Pwll nofio Caernarfon

Asesu

Daw’r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth Cymru ddweud ddydd Gwener eu bod nhw’n gweithredu i asesu pob un o adeiladau'r sector gyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Jeremy Miles nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw RAAC mewn ysgolion heblaw am y ddwy yn Ynys Môn a gyhoeddwyd ddechrau’r wythnos.

Roedd Ystadau Cymru yn llywio'r gwaith ar hyn o bryd, medden nhw. Roedd disgwyl i’r gwaith o ddod o hyd i RAAC gael ei gwblhau erbyn 15 Medi.

Fe fydd asesiad mewn rhagor o fanylder o’r adeiladau lle mae RAAC yn bresennol yn cael ei gynnal o fewn 28 diwrnod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.