'Effaith barhaus y pandemig' yn effeithio ar gyfraddau canfod rhai mathau o ganser
Mae cyfraddau ar gyfer canfod rhai mathau o ganser yn parhau i ddangos “effaith barhaus y pandemig” yn sgil diffyg cynnydd yn nifer yr achosion sy’n cael eu canfod, medd gwaith ymchwil newydd.
Canser y brostad a chanser yr ysgyfaint sydd ymysg y mathau o ganser sydd heb weld "cynnydd boddhaol" yn nifer yr achosion sy’n cael eu canfod mewn unigolion yng Nghymru ers cyfnod y pandemig, o dystiolaeth ycmchwil o samplau patholeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd cyfraddau canfod canser y brostad bron 20% yn is yn 2022 o gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig yn 2019.
Roedd cyfraddau canfod canser yr ysgyfaint hefyd bron i 5% yn is yn ystod yr un cyfnod.
Dyma’r tro cyntaf i’r math yma o ymchwil gael ei gynnal, wedi i Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru ddefnyddio samplau patholeg i asesu’r darlun cenedlaethol o ganfod canser yn y wlad.
Mae’r data bellach yn dangos bod cyfraddau canfod canser yn adfer yn arafach ar gyfer rhai mathau o ganser o'u cymharu ag eraill.
Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos effaith barhaus y pandemig ar ganfod canserau yng Nghymru.
“Mae'r datganiad cyntaf erioed hwn o ystadegau canser o samplau patholeg yn dangos bod adfer y niferau o ddiagnosis adeg y pandemig yn dal i amrywio rhwng gwahanol ganserau.”
‘Heriau’
Roedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis canser y fron wedi cynyddu 5.2% rhwng 2019 a 2022, tra oedd gynnydd o 2.8% yn nifer yr achosion o ganser y coluddyn.
Bellach, mae’r gyfradd ar gyfer diagnosis o bob math o ganser ar y cyd wedi gwella, a hynny bron wedi cyrraedd lefelau a welwyd cyn y pandemig.
Cafodd 0.4% yn llai o ganserau eu canfod yn 2022 O gymharu â 2019, meddai’r ymchwil.
Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu y bydd cyfradd canfod canser yn gyffredinol yn parhau ar yr un lefel eleni.
Ychwanegodd yr Athro Wyn Huws: “Mae'n galonogol bod canserau'r fron a'r coluddyn yn dangos gwelliannau mewn lefelau canfod, ond yn amlwg fod heriau'n parhau mewn cyfraddau canfod ar gyfer canserau eraill.
“Mae data patholeg misol hefyd yn awgrymu bod y gyfradd canfod canser gyffredinol yn hanner cyntaf 2023 wedi parhau tua'r un peth â'r un cyfnod yn 2022.
“Rwy'n falch ein bod wedi gallu gweithredu'r broses o gasglu data o samplau patholeg, a fydd yn rhoi gwybodaeth fwy amserol a chyfoes i ni. Bydd y datganiad newydd o ystadegau yn cael ei ddangos ar yr offeryn adrodd ar ganser ar-lein, a gafodd ei lansio'n gynharach eleni, sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.”
Llun: Danny Lawson/PA