Newyddion S4C

Cau holl wardiau Ysbyty Llwynhelyg 'yr unig ffordd o liniaru risg' RAAC yn llawn

08/09/2023
Llwynhelyg

Cau holl wardiau ysbyty yn Sir Benfro dros dro fyddai'r "unig ffordd o liniaru'r risg yn llawn" rhag effaith planciau concrit diffygiol RAAC yn “methu” meddai adroddiad bwrdd iechyd sydd yn gyfrifol am yr ysbyty.

Dyma oedd cynnwys adroddiad i gyfarfod o Bwyllgor Datblygu Strategol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar 31 Awst, ar ôl i archwiliad ddarganfod “difrod” i blanciau concrit RAAC yn yr ysbyty.

Roedd yr adroddiad hefyd yn amcangyfrif cost o £12.2m erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25 am raglen waith oedd yn codi o effaith RAAC.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi hynny.

Dywed yr adroddiad i'r pwyllgor eu bod eisoes wedi darganfod difrod i “amryw” o’r planciau concrit diffygiol sydd ar y safle.

'Risg sylweddol'

Dywedodd cofnodion y cyfarfod o ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf bod yna “risg sylweddol” ar safle Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Fe wnaeth yr adroddiad nodi'r posibilrwydd o orfod cau gweddill y wardiau a llawr gwaelod yr adeilad, sy’n parhau ar agor ar hyn o bryd.

“Y sefyllfa ar hyn o bryd ydy bod y bwrdd yn disgwyl darganfod planciau P1 [mewn cyflwr critigol] yn ardaloedd y wardiau a’r llawr gwaelod sy’n dal i ddisgwyl cael eu harolygu,” meddai cofnodion y pwyllgor.

"Yr hyn sy'n anhysbys wrth gwrs, yw cyflwr planciau yn yr ardaloedd hynny sydd eto i'w harolygu ac a oes planciau o gyflwr tebyg, neu waeth, yn bodoli yn yr ardaloedd hyn."

Ychwanegodd yr adroddiad mai “yr unig ffordd i liniaru’n llawn y risg o fethiant planciau a goblygiadau hyn” fyddai datgomisiynu y wardiau sy’n weddill ar y safle.

Byddai hefyd angen “datgomisiynu yr adrannau sy’n weddill ar y llawr gwaelod a’r prif ardaloedd cegin” nes eu bod nhw “wedi eu harolygu a’u clirio ar gyfer cael eu hail-ddefnyddio”.

‘Pryder’

Roedd 56 o’r planciau ar draws dwy ward yn “risg critigol” a hynny’n golygu bod angen “gwaith ar frys i’w hadfer” a bod angen eu cynnal gyda phropiau ac atal pobol rhag mynd ar eu cyfyl, meddai'r cofnodion.

Roedd dros 900 o blanciau ar draws dwy ward yn “risg” yn ward naw a ward 12 yr ysbyty.

Doedden nhw ddim eto wedi cwblhau'r gwaith o arolygu wardiau saith, wyth a 10, na chwaith yr unedau gofal coronari na strôc.

“Mae'r arolygon sydd wedi eu cynnal o RAAC ar safle Llwynhelyg wedi nodi risg sylweddol a'r angen hanfodol am waith atgyweirio,” meddai'r cofnodion.

“Mae'r arolygon hyn eisoes wedi canfod bod sawl planc RAAC wedi eu difrodi ac mae cyflwr RAAC yn yr ardaloedd hynny sydd eto i'w harolygu yn ansicr ac felly'n parhau i fod yn bryder.”

Ychwanegodd y cofnodion eu bod nhw’n parhau i ddod o hyd i nifer o’r planciau "sy’n peri pryder.”

“Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn disgwyl dod o hyd i ragor o’r planciau ar ardaloedd wardiau ac ardaloedd llawr gwaelod sy'n dal i aros am arolwg,”

‘Symud yn gyflym’

Fe gysylltodd Newyddion S4C gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda a chael ein cyfeirio at ddatganiad y bwrdd ar 15 Awst.

Bryd hynny cyhoeddodd y bwrdd iechyd “ddigwyddiad mawr mewnol” yn Ysbyty Llwynhelyg a dywedodd y bwrdd eu bod nhw’n “ceisio canfod maint ac effaith”  RAAC yn yr adeilad.

"Rydym yn gweithio gyda chontractwr allanol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru i nodi maint y broblem – mae hyn yn golygu arolygu pob un o’r planciau RAAC ar y safle. Lle nodir materion strwythurol, mae graddau'r gwaith adfer hefyd yn cael ei asesu," medden nhw bryd hynny.

Roedd tair ward yn Ysbyty Llwynhelyg wedi gorfod cau oherwydd presenoldeb y planciau dan sylw, ac mae cleifion wedi eu symud i leoliadau eraill y bwrdd iechyd yn Sir Benfro.

Yn ôl y bwrdd iechyd, eu bwriad yw "rheoli cymaint â phosib o adleoli cleifion o fewn Sir Benfro".

Mae cofnodion y bwrdd iechyd hefyd yn nodi nad yw cyflwr nifer o’r planciau yn hysbys ar hyn o bryd.

“Mae hon yn sefyllfa sy’n symud yn gyflym.

“Bydd angen adolygu’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn rheolaidd wrth i ni gael ein hysbysu am ganlyniadau ddod yn hysbys o’r gwaith arolygu sydd ar y gweill ar hyn o bryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.