RAAC: Rhai disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl darganfod concrit diffygiol ar Ynys Môn
Mae ysgol ar Ynys Môn wedi ail-agor yn rhannol ddydd Iau ar ôl gorfod cau dros dro oherwydd concrit diffygiol ddechrau’r wythnos.
Mae Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy wedi ail-agor i ddisgyblion Blwyddyn 7, 11 a 12 ddydd Iau.
Fe fydd blwyddyn 8 yn cael dod yn ôl ddydd Gwener.
Cafodd Concrit Awyrog Awtoclaf Cyfnerth (RAAC) ei ddarganfod mewn dwy ysgol ar Ynys Môn - Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi.
Mewn llythyr at rieni a gwarcheidwaid nos Fawrth, dywedodd pennaeth Ysgol David Hughes, Emyr Williams, fod y staff yn parhau i wynebu “sefyllfa lle nad ydym yn gallu defnyddio rhannau helaeth o’r adeiladau”.
“Yn ddibynnol ar benderfyniadau gan y peiriannydd rydym yn anelu at wahodd yr holl ddisgyblion i’r ysgol wythnos nesaf,” meddai.
“Os na fydd hynny’n bosib fe fyddwn yn anelu at ddarparu gwersi ar-lein i unrhyw flwyddyn na fydd yn yr ysgol.”
Mae disgwyl i’r disgyblion sy’n dychwelyd ddarparu eu cinio eu hunain, gan nad yw’r ffreutur ar gael, dywedodd y Pennaeth.
‘Diogel’
Ni fydd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi yn dychwelyd i’r ysgol am y tro.
Fe wnaeth Cyngor Sir Ynys Môn gyhoeddi y bydd pobl disgybl yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn derbyn addysg ar-lein am y tro.
Ond maen nhw’n dweud mai’r gobaith yw y bydd rhai disgyblion yn gallu mynd yn ôl i’r ysgol yr wythnos nesaf.
Dywedodd y Cyngor y bydd gwaith arolygu arbenigol pellach yn cael ei gynnal ar goncrit diffygiol RAAC sydd yn yr adeilad.
"Mae gwaith adferol ychwanegol yn cael ei wneud gyda'r gobaith o sicrhau bod rhagor o ddisgyblion yn gallu dychwelyd i'r ysgol yn ddiogel, a chyn gynted â phosibl", ychwanegodd y cyngor.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: “Ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch ein pobl ifanc a’n holl staff.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio’n ddiflino ers i ni ddod yn ymwybodol o’r mater cenedlaethol hwn.
“Mae’r ddau adeilad ysgol wedi cael eu heffeithio yn wahanol gan RAAC. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi cymunedau’r ddwy ysgol yn ystod y cyfnod heriol hwn.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n penaethiaid, Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr allanol i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ddatrys mor ddiogel a chyflym â phosibl.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Medi: “Hoffwn ddiolch i’n pobl ifanc, rhieni a staff am eu hamynedd a’u cydweithrediad.”
Ysgol Gyfun David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi oedd yr ysgolion cyntaf yng Nghymru i gael eu nodi fel rhai sydd â choncrit diffygiol RAAC.