Cynnal gêm bêl-droed arbennig rhwng dwy elusen adferiad i godi ymwybyddiaeth

Bydd dwy elusen adferiad a chamddefnyddio sylweddau yn cynnal gêm bêl-droed arbennig i godi ymwybyddiaeth o'u gwaith yn ystod mis Medi, sef mis adferiad cenedlaethol.
Bob mis Medi ers 1989, mae elusennau wedi bod yn dathlu’r gymuned adferiad, arferion triniaeth ac adferiad newydd yng Nghymru, sy’n gwneud adferiad o alcohol/cyffuriau yn bosib.
Mae’r mis yn dathlu pawb yn y gymuned, o bobl sy’n gweithio tuag at neu wedi cyflawni adferiad, y ffrindiau a theuluoedd, a’r rhai sy’n darparu’r gwasanaethau.
Eleni, am y tro cyntaf, bydd gêm bêl-droed yn cael ei chynnal rhwng elusennau Adferiad a Kaleidoscope.
Bydd yr elusennau hyn, sy’n cefnogi pobl sydd â dibyniaeth at sylweddau fel alcohol a chyffuriau, yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddydd Sadwrn, Medi 9, am 3yh yng Nghlwb Pêl-droed y Drenewydd i godi ymwybyddiaeth.
Mae’r gêm yn cael ei chefnogi gan noddwr Adferiad, yr actor Michael Sheen, wnaeth bostio ar X [Twitter] i hyrwyddo’r digwyddiad:
"Ddydd Sadwrn, 9 Medi, fydd y gêm fawr… 3 o’r gloch yn y prynhawn, Newton FC, Adferiad All Stars yn erbyn Kaleidoscope. Adferiad All Stars! Mae pob un ohonoch yn sêr, mae pawb yn sêr! Dewch ymlaen Adferiad!"
Bydd pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau’r elusennau, a’u gweithwyr yn ogystal â phobl sydd yn gysylltiedig yn chwarae fel aelodau o’r timau.
🤯 Yes, that was our Patron @michaelsheen Just in case you missed that...
— Adferiad (@Adferiad_) September 4, 2023
Adferiad All Stars vs @Kaleidoscope68, Newtown FC this Saturday Tune into the live stream from 3PM.
A huge thank you to @michaelsheen for the rousing cheer for the all stars!
Dewch ymlaen Adferiad! pic.twitter.com/Wd6JGp6xv3
Bydd y tîm sy’n dod i’r brig yn ennill cwpan Naloxone, fydd yn cael ei chyflwyno gan cyn gôl-geidwad Clwb Pêl-droed Lerpwl, Chris Kirkland.
Bydd pobl hefyd yn gallu gwylio’r gêm yn cael ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook Adferiad.