Newyddion S4C

Keir Starmer yn dyrchafu Chris Bryant i'w fainc flaen

06/09/2023
Chris Bryant. Llun gan Senedd San Steffan/ Andy Bailey.

Fe fydd yn rhaid i Senedd San Steffan ddod o hyd i bennaeth newydd ar gyfer pwyllgor safonnau allweddol ar ôl i Syr Keir Starmer ddyrchafu Syr Chris Bryant i'w fainc flaen.

Penododd yr arweinydd Llafur yr aelod seneddol dros Ferthyr, oedd yn llywodraeth Gordon Brown, yn weinidog cysgodol dros y diwydiannau creadigol a digidol ddydd Mercher.

Cyhoeddodd Syr Chris ar Twitter, sydd bellach yn cael ei adnabod fel X, ei fod wedi cyflwyno ei ymddiswyddiad at Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle “yn syth bin” o’i swydd amlwg fel cadeirydd Pwyllgor Safonau Tŷ’r Cyffredin, sy’n craffu ar ymddygiad ASau.

Yn dilyn cadarnhad o’i swydd newydd, dywedodd Syr Chris ei fod “wrth ei fodd” i ymgymryd â’r rôl, gan weithio o dan yr ysgrifennydd diwylliant cysgodol Thangam Debbonaire ac ysgrifennydd gwyddoniaeth yr wrthblaid Peter Kyle, a gafodd ill dau eu penodi ar ddechrau ad-drefnu Syr Keir.

“Mae creadigrwydd yn gyrru potensial y DU. Mae'n creu swyddi. Mae'n bywiogi ein dychymyg. Mae angen i ni ei drysori a’i ddathlu a sicrhau ei fod ar gael i bawb,” ysgrifennodd Syr Chris ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae rheolau Tŷ’r Cyffredin yn golygu bod yn rhaid i gadeirydd y Pwyllgor Safonau ddod o’r Wrthblaid, felly bydd ei olynydd yn AS Llafur wedi’i ethol mewn pleidlais gudd o’r Tŷ.

Mae presenoldeb AS y Rhondda i’r fainc flaen unwaith eto yn enghraifft arall o Syr Keir yn dod â’r rhai sydd â phrofiad o gyfnod diwethaf Llafur mewn llywodraeth i'r fainc flaen.

O dan Gordon Brown, fe wasanaethodd Syr Chris yn y Swyddfa Dramor, gan gynnwys fel gweinidog Ewrop, ar ôl bod yn ddirprwy arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.