Newyddion S4C

Nam anarferol arweiniodd at drafferthion meysydd awyr medd pennaeth

06/09/2023
Maes awyr

Roedd y nam technegol a arweiniodd at drafferthion eang mewn meysydd awyr ar wŷl y banc yn anarferol ac yn "ddigwyddiad un mewn 15 miliwn" yn ôl rheolwr y gwasanaeth traffig awyr. 

Dywedodd prif weithredwr y Gwasanaethau Traffig Awyr (Nats) Martin Rolfe fod un o'u systemau wedi methu ar ôl iddo "beidio â phrosesu cynllun hediad yn gywir." 

Ychwanegodd nad oedd y cynllun hwnnw a gafodd ei gyflwyno gan gwmni awyrennau yn "wallus."

Yn sgil y broblem, doedd Nats ddim yn medru prosesu cynlluniau hediadau yn awtomatig am rai oriau ar 28 Awst, sef un o ddiwrnodau teithio prysura'r flwyddyn a hithau'n ddydd Llun gwŷl y banc. 

Cafodd dros chwarter hediadau'r Deyrnas Unedig eu canslo, ac fe effeithiodd hynny ar oddeutu 250,000 o bobl.

Wrth ateb cwestiwn ynglyn â thebygolrwydd y fath ddigwyddiad, dywedodd Mr Rolfe: “Ry'n ni'n gwybod ei fod yn un mewn 15 miliwn, oherwydd ry'n ni wedi cael 15 miliwn o gynlluniau hedfan drwy'r system hon, a gallwn fod yn gwbwl sicr nad ydym wedi gweld y fath amgylchiadau o'r blaen." 

Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal adolygiad annibynnol.  

Mae disgwyl i'r manylion gael eu cyhoeddi ddiwedd Medi, ac mae disgwyl iddo fod yn ymchwiliad a fydd yn para oddeutu tri mis.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.