Newyddion S4C

'Cyfres o fethiannau' yn achosi i hofrennydd blymio i'r ddaear yng Nghaerlŷr

06/09/2023
CAERLYR

Cyfres o fethiannau mecanyddol achosodd y drychineb yng Nghaerlŷr pan blymiodd hofrennydd i'r ddaear gan ladd cadeirydd clwb pêl-droed Leicester City, a phedwar arall, yn ol arolygydd. 

Mae'r Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr, neu’r AAIB, bellach wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol i'r gwrthdrawiad ger stadiwm pêl-droed King Power ar 27 Hydref 2018.

Mae'r adroddiad wedi datgelu yr union eiriau ddywedodd y peilot Eric Swaffer, 53, eiliadau cyn i'r hofrennydd daro’r ddaear. 

Yn ôl y ddogfen, dywedodd y peilot “Does gen i ddim syniad beth sy’n digwydd” wrth iddo golli rheolaeth ar yr hofrennydd.

Bu farw 5 o bobl, sef  cadeirydd Leicester City, Vichai Srivaddhanaprabha, dau aelod o'i staff - Nusara Suknamai a Kaveporn Punpare - a'r peilotiaid Eric Swaffer ac Izabela Roza Lechowicz.

Fe wnaeth yr hofrennydd Leonardo AW169 gyrraedd uchder o tua 430 troedfedd cyn plymio i'r ddaear pan datgysylltodd pedalau'r peilot, medd yr ymchwilwyr.

Arweiniodd hyn at yr hofrennydd yn gwneud tro sydyn i’r dde a oedd yn “amhosib” i’w reoli, medd yr AAIB.

Disgrifiodd yr AAIB hyn fel “methiant trychinebus”, a wnaeth achosi’r hofrennydd i droelli’n gyflym, tua phum gwaith.

Digwyddodd y ddamwain toc ar ôl gêm Uwch Gynghrair rhwng Leicester City a West Ham United.

Fe wnaeth yr adroddiad ddiystyru dronau a chamgymeriadau gan y peilot fel achos i'r ddamwain. 

Dywedodd Crispin Orr, prif arolygydd damweiniau awyr yr AAIB mai prif swyddogaeth yr ymchwiliad oedd " canfod pam y digwyddodd y ddamwain a sut y gellir gwella diogelwch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.