Newyddion S4C

Person wedi marw a nifer mewn ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng bws a cherbyd ar Bont Cleddau

05/09/2023
Bont Cleddau

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys nos Fawrth fod person wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng bws a cherbyd ar Bont Cleddau yn Sir Benfro, yn ystod y prynhawn.   

Yn ôl yr heddlu, mae un person wedi ei gludo i ysbyty mewn cyflwr difrifol.  

Cyhoeddodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gynharach fod naw o bobl wedi eu cludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac un person wedi ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Llwyddodd y gwasanaethau brys i ryddhau gyrrwr a oedd wedi ei gaethiwo, yn dilyn yr hyn a gafodd ei ddisgrifio fel “digwyddiad mawr" ar y bont rhwng Doc Penfro a Neyland 

Roedd un o'r gyrwyr yn y gwrthdrawiad yn gaeth a chriwiau wedi treulio peth amser yn ceisio ei ryddhau, ac fe aeth i’r ysbyty mewn Ambiwlans Awyr.

Yn ôl datganiad gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fe gafodd criwiau o Ddoc Penfro, Aberdaugleddau, Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod ac Arberth eu galw i'r safle tua 14.19 brynhawn Mawrth.

Roedd yr Ambiwlans Awyr a Heddlu Dyfed-Powys hefyd ar y safle.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nos Fawrth fod ffordd yr A477 yn dal wedi ei chau yn yr ardal.

Gyda thua naw o bobl yn cael triniaeth yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynghori bobl i fynd i'r adran frys yno os yw eu cyflwr yn bygwth eu bywyd neu eu hanafiadau yn ddifrifol. 

"Er mwyn sicrhau y gallwn drin cleifion yn briodol, rydym yn eich annog i ddewis eich gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn", meddai datganiad gan y bwrdd iechyd.   

‘Diolch’

Fe ymatebodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i'r gwrthdrawiad: "Pryderus clywed am ddigwyddiad ar Bont Cleddau.

"Mae'r manylion yn dal i ddod i'r amlwg.

"Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio, a hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith caled."

Gadawodd rhai criwiau'r lleoliad am 4.16pm, ac arhosodd eraill yn y lleoliad i gynorthwyo'r Heddlu ymhellach.

Cafodd offer gwrthdrawiadau traffig ffordd ei defnyddio yn ogystal â phlatfform HGV a phecynnau trawma yn ystod y digwyddiad meddai’r gwasanaethau brys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.