Newyddion S4C

Menyw a fu farw ar ôl pwyso allan o drên wedi’i lladd gan gangen

Wales Online 04/06/2021
Tren GWR

Mae cwest i farwolaeth menyw a fu farw ar ôl iddi bwyso allan o ffenestr trên wedi dod i’r casgliad mai cangen wnaeth ei lladd. 

Bu farw Bethan Roper, 28 oed o Benarth, ar ôl dioddef o anafiadau i’w phen tra’n teithio ar drên Great Western Railway ym mis Rhagfyr 2018. 

Roedd y trên yn teithio ar gyflymder o 75mya ar y pryd, yn ôl Wales Online

Roedd Ms Roper yn dychwelyd i dde Cymru ar ôl bod yn siopa Nadolig yn nhref Caerfaddon yn ystod y dydd, gyda ymchwiliad post mortem yn dangos ei bod dan ddylanwad alcohol ar y pryd. 

Mae’n debyg ei bod wedi pwyso ei phen allan o un o ffenestri’r trên sy’n cael ei ddefnyddio gan deithwyr i agor y drws o’r tu allan.  

Dywedodd llefarydd ar ran GWR eu bod nhw’n cynnal y broses o ddadgomisiynu trenau o’r fath yma yn ystod y misoedd wnaeth arwain at farwolaeth Ms Roper. 

Mae’r gwaith yma wedi cwblhau erbyn hyn, meddai’r llefarydd. 

Darllenwch y stori’n llawn yma
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.