Nifer yr eryrod aur yn ne'r Alban ar ei lefel uchaf ers 300 mlynedd
Mae niferoedd yr eryrod aur yn ne'r Alban wedi codi i'w lefel uchaf ers tri chan mlynedd, yn ôl arbenigwyr.
Yn ôl rheolwyr prosiect cadwriaethol, mae wyth cyw arall wedi eu symud yn llwyddiannus i leoliad cyfrinachol yn ne'r Alban yr haf hwn, er mwyn gwarchod yr eryrod
Mae hynny'n golygu fod niferoedd yr eryrod aur yno wedi cyrraedd tua 46, y niferoedd mwyaf i'w cofnodi yn yr ardal ers tair canrif, ac mae bedair gwaith yn fwy na'r amcangyfrifon blaenorol.
Cyn i'r prosiect ddechrau, dim ond rhwng dau a phedwar pâr o eryrod aur oedd yn bodoli yn ardaloedd Dumfries a Galloway ac Arfordir yr Alban.
Mae rheolwyr y prosiect wedi datgelu bod dau aderyn arall o'r enw Edward a Iona wedi symud i'r ardal o fewn tair blynedd i'w gilydd, a bellach wedi paru mewn lleoliad cyfrinachol.
Mae Gŵyl Eryr Moffat bellach yn cael ei chynnal am y drydedd flwyddyn ger tref Moffat, er mwyn cefnogi'r prosiect i warchod yr eryrod
Y naturiaethwr a chyflwynydd S4C a'r BBC Iolo Williams, fydd y prif siaradwr eleni. Dywedodd fod "gwaith arbennig y prosiect hwn wedi bod yn ganolog yn yr ymdrechion i warchod yr eryrod yn ne'r Alban".
“Mae'n wych i feddwl bod mwy o obaith bellach i weld y creadur eiconig hwn yn yr awyr uwchlaw. Rwy'n gobeithio, yn dawel bach y caf gyfle i weld ambell un pan fyddaf yno."
Ym mis Awst 2020 daeth y newyddion fod eryr aur olaf Cymru wedi marw ym Mynyddoedd y Cambrian yn y canolbarth.
Fe aeth yr adar yn brin yng Nghymru tua 200 mlynedd yn ôl, ac mae'r niferoedd wedi disgyn yn sylweddol ar hyd gwledydd y DU oherwydd hela ac erledigaeth.