Diswyddo Gweinidog Amddiffyn Wcráin
Mae arlywydd Wcráin wedi cyhoeddi bod Gweinidog Amddiffyn y wlad, Oleksii Reznikov, wedi cael ei ddiswyddo.
Roedd Mr Reznikov wedi arwain y weinidogaeth ers cyn ymosodiad Rwsia ar y wlad ym mis Chwefror 2022.
Ond yn ei anerchiad nosweithiol, dywedodd yr Arlywydd Zelensky ei bod hi’n bryd i'r weinidogaeth amddiffyn ddatblygu "dulliau newydd".
Mae Rustem Umerov, a oedd yn gyfrifol am Gronfa Eiddo'r Wladwriaeth Wcráin, wedi'i enwebu gan Mr Zelensky fel olynydd Mr Reznikov.
“Rwy’n credu bod angen dulliau newydd ar y weinidogaeth a ffyrdd eraill o ryngweithio â’r fyddin a’r gymdeithas gyfan,” meddai Mr Zelensky.
Cynnydd
Mae’r cyfryngau yn Wcráin yn dyfalu y bydd Mr Reznikov yn dod yn llysgennad newydd Kyiv yn Llundain, lle mae wedi datblygu cysylltiadau da gydag uwch wleidyddion.
Ond roedd disgwyl iddo gael ei ddiswyddo ers peth amser. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Mr Reznikov wrth ohebwyr ei fod yn edrych ar swyddi eraill gydag arlywydd Wcráin.
Daw diswyddiad Mr Reznikov wrth i Wcráin sicrhau arfau mwy datblygedig gan gynghreiriaid y Gorllewin.
Mae cynnydd ar y rheng flaen wedi bod yn araf ond dywedodd prif gadfridogion Wcráin ddydd Sul fod eu lluoedd wedi torri trwy linell allweddol o amddiffynfeydd Rwsia yn ne’r wlad.
Yn y cyfamser, dywedodd Rwsia ei bod wedi gweld sawl ymgais ymosodiad drone ar ei thiriogaeth dros nos.
Llun: Flicker