Newyddion S4C

Cyn-gapten rygbi Cymru David 'Dai' Watkins wedi marw'n 81 oed

03/09/2023
David Watkins

Mae cyn-gapten rygbi Cymru, David ‘Dai’ Watkins MBE, wedi marw yn 81 oed.

Fe wnaeth Mr Watkins gynrychioli Cymru yn rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair, gan gael ei benodi’n gapten ar y ddau dîm.

Roedd hefyd wedi cynrychioli'r Llewod Prydeinig a thîm rygbi’r gynghrair Prydain fel capten.

Yn frodor o Flaenau, ym Mlaenau Gwent, fe serennodd dros Gasnewydd yn rygbi’r undeb, cyn symud i chwarae rygbi’r gynghrair dros Salford, gan ymddangos mewn dros 400 o gemau.

Mewn datganiad a gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd Clwb Rygbi Casnewydd y byddai munud o dawelwch yn cael ei chynnal cyn eu gêm yn erbyn Pont-y-pŵl.

“Rydym yn hynod drist o glywed bod David ‘Dai’ Watkins, un o’r chwaraewyr gorau mae’r clwb wedi ei gynhyrchu erioed, wedi marw yn 81 oed,” meddai’r datganiad.

“Ymunodd Dai â Chasnewydd yn 1961 gan ennill Pencampwriaeth Cymru yn ei dymor cyntaf, cyn chwarae rhan ganolog yn ein buddugoliaeth enwog yn erbyn y Crysau Duon yn 1963.

“Yn ddiweddarach bu’n gapten ar y clwb rhwng 1964-1968 a hefyd yn gapten ar Gymru a’r Llewod Prydeinig.

"Wrth newid codau yn 1967 i ymuno â Salford, roedd cyfnod Watkins yn rygbi'r gynghrair yr un mor ddisglair ag unrhyw beth yn ei yrfa undebol.

“Gwnaeth dros 400 o ymddangosiadau i'r Red Devils, yn ogystal ag ennill 16 cap i Gymru a chwarae mewn chwe phrawf i Brydain.

"Ar ôl ymddeol, dychwelodd i Gasnewydd i fod yn Rheolwr Tîm ym 1992 cyn gwasanaethu fel Cadeirydd y clwb ac yn ddiweddarach Llywydd.

“Fe enillodd MBE yn 1986 a chafodd ei sefydlu yn Oriel Anfarwolion NRFC a Rygbi'r Gynghrair Dynion.

"Rydym yn anfon ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu, ffrindiau a phawb a gafodd y fraint o’i adnabod. Bydd munud o dawelwch cyn y gic gyntaf."

Llun: Clwb Rygbi Casnewydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.