Newyddion S4C

Cyn chwaraewr rygbi Cymru Alix Popham yn yr ysbyty ar ôl dioddef cyfergyd yn ystod Ironman

03/09/2023
Alix Popham

Fe gafodd y cyn-chwaraewr rygbi dros Gymru, Alix Popham, ei gludo i’r ysbyty ar ôl cymryd rhan yn triathlon Ironman yn Ninbych-y-pysgod ddydd Sul.

Roedd yn rhaid i'r cyn-chwaraewr rhyngwladol dynnu allan o'r ras ar ôl dioddef cyfergyd yn ystod y cymal nofio, ar ôl derbyn cic i’w ben.

Nid oedd Mr Popham, 43 oed, yn gallu adnabod ei wraig, Mel, ar ôl iddo ddychwelyd i’r arfordir. 

Fe gafodd Mr Popham ddiagnosis dementia dechreuad cynnar yn 2020, pan yr oedd yn 40 mlwydd oed.

Mae'r cyn chwaraewr rheng ôl hefyd wedi bod yn agored wrth drafod ei ddiagnosis tebygol o enseffalopathi trawmatig cronig (chronic traumatic encephalopathy), sef cyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd – a hynny ar ôl dioddef anafiadau i’w ben. 

Penderfynodd cystadlu yn yr her er mwyn casglu arian ar gyfer yr elusen Head for Change.

Mae’r elusen yn gweithredu er lles unigolion sy’n dioddef â phroblemau'r ymennydd yn sgil anafiadau a chafwyd drwy chwaraeon. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y grŵp lobïo, Progressive Rugby, fod y digwyddiad yn un “creulon” ac “eironig.” 

Ychwanegodd bod Mr Popham, sydd â 33 cap dros Gymru, bellach wedi cael ei gludo i’r ysbyty gan y gwasanaethau brys. 

Mae triathlon Ironman yn cynnwys her nofio 2.4 milltir yn y môr ym Mae Caerfyrddin, a hynny wedi’i ddilyn gan her seiclo 112 milltir ar hyd ffyrdd Sir Benfro. Mae athletwyr yn gorffen yr her drwy redeg marathon, sef pellter o 26.2 milltir.

Llun: Twitter Alix Popham

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.