Bon voyage! Tîm Cymru yn gadael am Gwpan Rygbi’r Byd
Mae tîm rygbi Cymru wedi cychwyn ar eu taith i Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
Fe wnaeth y garfan ffarwelio â’u teuluoedd cyn gadael Gwesty’r Fro ym Mro Morgannwg fore dydd Sul.
Roedd côr yn canu a baneri cefnogwyr yn chwifio wrth i’r chwaraewyr gerdded i’r bws, cyn cael eu cludo i’r maes awyr.
Mi fydd y tîm yn teithio i’w pencadlys yn ystod y gystadleuaeth, sydd wedi ei leoli yn Versailles, y tu allan i Paris.
🇫🇷 We’re off!
— Welsh Rugby Union 🏴 (@WelshRugbyUnion) September 3, 2023
❤️Tough to say goodbye but we’ll do you proud#WelshRugby | #ViveLeCymru pic.twitter.com/TMKH2Topnb
Bydd y bencampwriaeth yn cychwyn nos Wener gyda’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd yn Paris.
Bydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf ddydd Sul nesaf yn Bordeaux, am 20.00.
Llun: Undeb Rygbi Cymru