Tesco yn cynnig camerâu corff i'w staff yn dilyn cynnydd mewn ymosodiadau
Mae prif weithredwr Tesco wedi galw am newid yn y gyfraith er mwyn sicrhau bod cam-drin neu drais tuag at weithwyr manwerthu yn drosedd yn y DU.
Dywedodd Ken Murphy bod yr archfarchnad wedi cynnig camerâu i’w aelodau staff y gellir eu gwisgo ar y corff er mwyn eu diogelu rhag yr ymosodiadau.
Daw’r alwad ar ôl i gynnydd o draean mewn ymosodiadau corfforol tuag at aelodau staff Tesco o fewn blwyddyn yn unig, ychwanegodd Mr Murphy mewn erthygl i’r Mail on Sunday.
Mae Tesco eisoes wedi buddsoddi oddeutu £44 miliwn i fesurau diogelwch dros y pedair blynedd diwethaf, meddai.
Yn ogystal â'r camerâu, mae’r mesurau yn cynnwys systemau sy’n diogelu mynediad drws, sgriniau amddiffyn a radios digidol.
Ond mae galw ar Lywodraeth y DU i weithredu pellach er mwyn sicrhau diogelwch eu staff, meddai Mr Murphy.
‘Annerbyniol’
Dywedodd Ken Murphy: “Mae arian sy’n cael ei wario er lles diogelwch gweithwyr bob amser yn cael ei wario’n dda.
“Ond ni ddylid fod fel hyn. Mae trosedd yn ofid i’r gymdeithas ac yn sarhad i siopwyr a gweithwyr manwerthu."
Dywedodd bod y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau yn “annerbyniol,” ac mae’r effaith ar weithwyr yn “dorcalonnus.”
“Yn dilyn ymgyrch gan weithwyr ac aelodau’r undeb Usdaw ar y cyd, y llynedd fe wnaeth Llywodraeth y DU sicrhau bod ymosodiadau ar weithwyr siop yn cael eu hystyried fel ffactor ychwanegol mewn achosion llys – sy’n golygu y dylai troseddwyr gael dedfrydau hirach.
“Mae angen i farnwyr ddefnyddio’r pŵer hwn. Mae'n rhaid i ni fynd ymhellach, fel yn yr Alban, a gwneud cam-drin neu drais tuag at weithwyr manwerthu yn drosedd ar ben ei hun.”
Fe wnaeth alw hefyd am well cydweithio gyda lluoedd yr heddlu.
Llun: Picasa