Newyddion S4C

Dau yn yr ysbyty wedi darn o do gwympo mewn siop yn Nolgellau

02/09/2023
Siop Dolgellau

Mae dau berson wedi eu cludo i’r ysbyty ar ôl i ran o do gwympo mewn siop yng nghanol Dolgellau.

Cafodd yr heddlu, gwasanaeth tân a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru brys eu galw i Stryd Plas-y-Dref toc cyn 13.00 ddydd Sadwrn ar ôl i ran o’r to gwympo i mewn i siop Spar a Swyddfa Bost.

Fe gafodd Ambiwlans Awyr Cymru eu galw i’r digwyddiad yn ogystal, wrth i’r heddlu gau canol y dref i draffig a cherddwyr.

Fe lwyddodd dau aelod o staff y siop ac un aelod o’r cyhoedd i ddianc yr adeilad, ond roedd rhaid tynnu un aelod o staff allan o'r rwbel.

Dywedodd llefarydd ar ran wasanaeth Ambiwlans Cymru fod dau berson wedi eu cludo i’r ysbyty, sef un aelod o staff ac un aelod o'r cyhoedd, gydag un yn mynd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac un yn mynd i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Dywedodd y Prif Arolygydd Rob Rands o Heddlu Gogledd Cymru: “Er nad ydym yn credu bod unrhyw un yn parhau i fod yn yr adeilad, mae tîm chwilio arbenigol ar eu ffordd i’r lleoliad i gynorthwyo ein cydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

“Mae Cyngor Gwynedd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gyd wedi’u briffio’n llawn. Mae swyddogion heddlu yn parhau yn y fan a’r lle tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

“Disgwylir i’r ardal o amgylch y siop aros ar gau am gyfnod sylweddol a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl drigolion lleol a pherchnogion busnes am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth.”

Dywedodd llefarydd ar ran Spar UK: “Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad strwythurol yn ein siop yn Nolgellau a ddigwyddodd yn gynharach heddiw.

“Ar hyn o bryd mae cydweithwyr yn y siop ac aelod o’r cyhoedd yn derbyn triniaeth feddygol.

“Rydym yn aros am ddiweddariadau cyn gwneud sylw pellach.”

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.