Huw Stephens yn cyflwyno rhaglen radio newydd ar BBC Radio 6 Music
Fe fydd y darlledwr Huw Stephens yn cyflwyno rhaglen radio newydd ar orsaf BBC Radio 6 Music.
Bydd Huw Stephens yn cymryd yr awenau gan Steve Lamacq wrth iddo ddarlledu ei raglen newydd rhwng 16.00–19.00 bob brynhawn Mawrth i ddydd Gwener, gan rannu’r gerddoriaeth y mae ef “yn ei garu.”
Mi fydd Steve Lamacq yn parhau i gyflwyno ei raglen rhwng 16.00-19.00 bob dydd Lun.
Dywedodd Huw Stephens, sy’n cael ei adnabod am fod y DJ ieuengaf erioed ar BBC Radio 1, ei fod yn edrych ymlaen at ymuno â “chymuned” 6 Music.
“Mae 6 Music yn golygu gymaint i mi a phawb sydd yn gwrando ar yr orsaf. Mae’n gymuned,” meddai.
“Mae ymuno â’r orsaf radio yma gyda rhaglen fy hunan yn anrhydedd, yn enwedig wrth i mi gymryd yr awenau oddi wrth Steve Lamacq a fydd yn aros ar 6, gyda rhaglen newydd.
“Dwi’n edrych ymlaen at dreulio amser gyda gwrandawyr 6 Music pob diwrnod, gan rannu cerddoriaeth newydd a dathlu’r gerddoriaeth rydym yn eu caru.”
Bydd disgwyl i’w raglen newydd gychwyn yn y flwyddyn newydd, ar 9 Ionawr 2024.
Fel rhan o gynllun y BBC i sicrhau cynrychiolaeth holl ranbarthau’r DU, bydd rhaglen newydd Huw Stephens yn cael ei darlledu o'r Sgwâr Canolog, yng Nghaerdydd.
Mi fydd y darlledwr yn parhau i gyflwyno ei raglen wythnosol pob nos Lun ar gyfer BBC Radio Wales, yn ogystal â’i raglen Gymraeg bob nos Iau ar BBC Radio Cymru.