Anhrefn Abertawe: Arestio pump arall
04/06/2021
Mae pump dyn arall wedi cael eu harestio gan Heddlu'r De yn ystod yr ymchwiliad i anhrefn yn Abertawe yn gynharach ym mis Mai.
Cafodd y pump eu harestio ar amheuaeth o derfysga ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd mis Mehefin wrth i ymholiadau pellach fynd yn ei blaen.
Dechreuodd y trais ar ffordd Waun-Wen ar ôl gwylnos i ddyn lleol oedd wedi marw, nos Iau 20 Mai.
Y gred yw bod hyd at 200 o droseddwyr wedi cymryd rhan yn y digwyddiad yn ystod un cyfnod.
Mae 20 o arestiadau wedi cael eu gwneud hyd yma.