Newyddion S4C

Dynes 75 oed yn dioddef anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad yng Nghaernarfon

02/09/2023
S4C

Mae dynes 75 oed wedi dioddef anafiadau all beryglu ei bywyd yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaernarfon nos Wener. 

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad ar yr A4086 Ffordd Llanberis am oddeutu 21.17.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng dynes a fan Citroen, meddai’r heddlu. Roedd y cerbyd yn teithio i gyfeiriad cyffredinol Stad Ddiwydiannol Cibyn.

Cafodd y ddynes ei chludo gan y gwasanaethau brys i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, cyn cael ei throsglwyddo i ysbyty yn Stoke. 

Mae’r ddynes yn parhau mewn cyflwr difrifol. 

‘Apêl’

Mae’r heddlu wedi cael gwybod bod rhai unigolion wedi recordio’r digwyddiad, ac yn eu hannog i gysylltu ar unwaith a pheidio â rhannu’r delweddau ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd yr heddlu yn apelio am un lygad-dyst yn benodol, sef dyn yr oeddent yn amau a wnaeth gweld y digwyddiad. Mae’r dyn bellach wedi cysylltu gyda’r heddlu. 

Mewn datganiad, dywedodd yr heddwas Owain Roberts ar y pryd: “Rydym yn annog unrhyw lygad-dystion i gysylltu hefo ni, ac rydym yn arbennig o awyddus i siarad â dyn a oedd yn gwthio pram y tu allan i siop Spar a allai fod wedi gweld y digwyddiad. 

“Rydym yn ei annog i gysylltu gyda’r heddlu cyn gynted â phosib gydag unrhyw wybodaeth a allai helpu gyda’n hymchwiliad. 

“Rydym hefyd yn annog unrhyw un sydd a CCTV preifat neu gynnwys fideo cloch drws a allai fod wedi ffilmio’r digwyddiad i gysylltu hefyd.”

Fe gafodd y ffordd ei chau yn dilyn y digwyddiad. Cafodd ei hail-agor toc wedi hanner nos. 

Mae’r heddlu yn annog i unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 23000829701.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.