Aberystwyth a'r Drenewydd yn edrych am fuddugoliaeth gyntaf yn y Cymru Premier JD

Wedi pedair gêm gynghrair mae’r Seintiau Newydd ar frig y tabl unwaith eto, ond mae’r pencampwyr yn un o bum tîm sy’n dal heb golli yn y Cymru Premier JD hyd yma.
Caernarfon v Cei Connah | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw ar-lein, ar S4C Clic a thudalennau Facebook ac YouTube Sgorio)
Roedd yna nifer wedi darogan y byddai Caernarfon yn cael tymor anodd, ond mae’r Cofis wedi dechrau’n gryf ac yn eistedd yn ail yn y tabl a heb golli yn eu pedair gêm gyntaf.
Mae tri ymosodwr newydd Caernarfon, Adam Davies, Louis Lloyd a Zack Clarke eisoes wedi sgorio dwy gôl yr un, ac mae Marc Williams yn gydradd gyntaf ar frig rhestr creu goliau'r gynghrair (3). Felly mae’n ymddangos bod y rheolwr Richard Davies wedi llwyddo i wneud busnes effeithiol dros yr haf.
Mae Cei Connah yn 6ed yn y tabl ar ôl ennill eu dwy gêm gartref a cholli dwy oddi cartref. Ond bydd Neil Gibson yn ffyddiog y gall y Nomadiaid gipio triphwynt ar yr Oval gan nad yw Cei Connah wedi colli'r un o’u 11 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 8, cyfartal 3).
Mae Jordan Davies wedi cael dechrau cadarn i’r tymor ers ail-ymuno â Chei Connah, ac mae’n gyfartal ag Adrian Cieslewicz o’r Seintiau Newydd ar frig rhestr sgorwyr y gynghrair gyda tair gôl yr un.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅✅➖͏͏͏➖
Cei Connah: ❌✅❌✅
Y Drenewydd v Met Caerdydd | Nos Wener – 19:45
Dyw’r Drenewydd ddim wedi cael y dechrau delfrydol i’r tymor ar ôl colli eto nos Fawrth yn erbyn Cei Connah, a does neb wedi ildio mwy o goliau na’r Robiniaid hyd yma (8 – yn gyfartal â Chei Connah).
Un pwynt yn unig sydd gan Y Drenewydd, a hynny ar ôl gem ddi-sgôr yn erbyn Aberystwyth y penwythnos diwethaf. Yn ôl Chris Hughes, mae ei chwaraewyr wedi methu a chyrraedd y safonau disgwyliedig hyd yn hyn.
Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf bedair gwaith yn y pum mlynedd diwethaf, ond mae ganddyn nhw arferiad drwg o ddechrau’n araf. Roedden nhw yn yr 11eg safle wedi 12 gêm llynedd, ac yn 11eg wedi 14 gêm yn nhymor 2020/21.
Bydd hi’n her curo amddiffyn cadarn Met Caerdydd sydd heb ildio gôl ers mis Ebrill gyda’r golwr dibynadwy Alex Lang yn cadw chwe llechen lân yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Er hynny, dim ond dwy gôl mae’r myfyrwyr wedi ei sgorio mewn pedair gêm gynghrair eleni gan ennill 1-0 yn erbyn Aberystwyth a Bae Colwyn a chael gemau di-sgôr yn erbyn Y Bala a Phen-y-bont.
Dyw Met Caerdydd ddim wedi colli'r un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd (ennill 5, cyfartal 4) a bydd Ryan Jenkins yn hyderus y gall ei garfan barhau â’u dechrau di-guro i’r tymor.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌❌➖❌
Met Caerdydd: ✅➖✅➖
Y Seintiau Newydd v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45
Y Seintiau Newydd sy’n arwain y ffordd, dau bwynt yn glir ar y brig uwchben Caernarfon, Pen-y-bont, Y Bala a Met Caerdydd.
Ar ôl curo Cei Connah o 6-2 ar y penwythnos agoriadol roedd yna ofn y byddai’r pencampwyr yn rhoi crasfa i bawb eleni, ond dim felly mae hi wedi bod ers hynny gyda’r criw o Groesoswallt yn ennill o ddim ond 1-0 yn erbyn Pontypridd a Bae Colwyn a chael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Y Barri.
Er hynny, y Seintiau sy’n dal i osod y safon ac mae llai na naw mis ers i garfan Craig Harrison chwalu Aberystwyth o 11-0 yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon yn Rhagfyr 2022.
Aberystwyth sydd ar waelod y domen, ac ar ôl perfformiadau digon di-fflach a dim un gôl hyd yma, a mae rhai'n pryderu mai dyma’r tymor pan fydd y clwb o Geredigion yn syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.
Bydd rhaid i’r rheolwr Anthony Williams wneud ambell i newid i’w dîm nos Wener gan na fydd Ben Woollam na Billy Kirkman yn gymwys i chwarae gan eu bod ar fenthyg gyda’r clwb o’r Seintiau Newydd.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅
Aberystwyth: ❌❌➖❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:35.
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru