Nifer o bobl sydd â mwy nag un pasbort yng Nghymru a Lloegr wedi dyblu mewn degawd
Mae nifer y bobl sydd â mwy nag un pasbort yng Nghymru a Lloegr wedi dyblu yn y degawd diwethaf – a hynny’n rhannol o ganlyniad i Brexit, medd arbenigwyr.
A mae pum gwaith mwy o bobl a gafodd eu geni yn y DU, bellach yn berchen ar basbort yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â phasbort Prydeinig.
Mae ffigyrau Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 1.26 miliwn o drigolion Cymru a Lloegr gyda mwy nag un pasbort, sef cynnydd o’r ffigwr o 612,000 yn 2011.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gall sgil-effeithiau Brexit esbonio’r cynnydd yma’n rhannol. Mae'r cynnydd yn nifer y mudwyr o wledydd yr UE hefyd yn ffactor posib, meddai.
Yng Nghymru, roedd Caerdydd â’r gyfran uchaf o bobl a aned yn y DU oedd yn berchen â phasbort deuol, sef 1.1% o’r boblogaeth yno.
Roedd gan 0.7% o drigolion Sir Fynwy a Cheredigion basbort deuol.
Roedd Sir Fynwy hefyd â’r gyfradd uchaf o bobl na chafodd eu geni yn y DU oedd yn berchen â mwy nag un pasbort, sef 9.7% o’r boblogaeth yno.
Roedd 8.5% o boblogaeth Fro Morgannwg oedd ddim wedi eu geni yn y DU â mwy nag un pasbort, a 8.2% o drigolion sir Conwy.
‘Dyblu’
Dywedodd Jay Lindop ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Mae nifer y bobl sydd â dinasyddiaeth ddeuol wedi dyblu ers 2011, gyda mwy na 1.2 miliwn o drigolion yng Nghymru a Lloegr bellach efo pasbortau lluosog.
“Fe ddaw’r cynnydd yn rhannol oherwydd mudo dros y ddegawd diwethaf, gyda chynnydd yn nifer y bobl sy’n symud yma o’r UE.
“Mae pobl sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru a Lloegr yn cael plant, a hynny’n achosi cynnydd mewn dinasyddiaeth ddeuol ymhlith yr oedrannau iau.
“Gallai’r cynnydd mewn dinasyddion deuol hefyd awgrymu bod mwy o bobl yn penderfynu cael pasbortau ychwanegol wedi i symudiad rhydd dod i ben wedi i’r DU gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.