Newyddion S4C

Penodi Grant Shapps yn ysgrifennydd amddiffyn y DU wedi i Ben Wallace ymddiswyddo

31/08/2023
Grant Shapps

Mae Grant Shapps wedi cael ei benodi’n ysgrifennydd amddiffyn y DU wedi i Ben Wallace gyhoeddi ei fod wedi ymddiswyddo o’r swydd fore Iau. 

Roedd Ben Wallace wedi cyhoeddi ei fwriad i gamu i lawr fis diwethaf. 

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Shapps: “Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Amddiffyn gan Rishi Sunak. 

“Hoffwn roi teyrnged i Ben Wallace am ei gyfraniad enfawr y mae wedi ei wneud i amddiffyn a diogelu’r DU yn fyd-eang dros y bedair blynedd ddiwethaf. 

“Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda dynion a menywod dewr y Lluoedd Arfog sy'n amddiffyn diogelwch ein cenedl yn Defence HQ

“A pharau i gefnogi Wcráin yn y rhyfel yn erbyn Putin.” 

Yn gyn-ysgrifennydd ynni, fe fydd Grant Shapps bellach yn gyfrifol am luoedd arfog y DU – gan gynnwys yr ymdrechion i gefnogi Wcráin yn y rhyfel yn erbyn Rwsia. 

Mae disgwyl i’r gweinidog addysg, Claire Coutinho, gymryd yr awenau wrth lenwi swydd flaenorol Mr Shapps fel yr ysgrifennydd ynni. 

Ymddiswyddo

Mewn llythyr i Mr Sunak, dywedodd Mr Wallace: “Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ôl ar y trywydd cywir i fod gyda'r goreuon y byd. 

“Mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei pharchu ledled y byd am ein lluoedd arfog ac ers y rhyfel yn Wcráin, mae’r parch hwn wedi tyfu’n fwy eto.

“Rydw i’n gwybod eich bod yn cytuno'r na ddylem ni ddychwelyd i’r dyddiau pan oedd gwario cyllid ar ein lluoedd arfog yn cael ei ystyried fel opsiwn, a phan oedd arbedion yn cael eu gwneud trwy beidio,” meddai.

Roedd Mr Wallace yn y swydd am bedair blynedd.

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi canmol Mr Wallace, gan ddweud ei fod yn ymddeol gyda “pharch a diolch.” 

Llun: Yui Mok/PA Wire.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.