Newyddion S4C

Un nos olau leuad las ar draws y DU

31/08/2023
lleuad

Mae lleuad las hynod brin wedi ymddangos dros y DU, gan gynnig ffenomen na fydd ond yn digwydd unwaith eleni.

Yn wahanol i'r hyn y mae'r enw yn ei awgrymu, nid yw lleuad las yn cael ei enwi ar ôl y lliw ond yn hytrach mae'n cyfeirio at yr ail leuad lawn mewn un mis calendr.

Dim ond un lleuad lawn sydd gan y mwyafrif o fisoedd, felly mae ail un yn ddigwyddiad eithaf prin, sy'n digwydd tua unwaith bob dwy neu dair blynedd.

Gan ymddangos yn fwy nag arfer, roedd disgwyl iddo godi tua 20:00 nos Iau hyd at 06:00 y diwrnod canlynol, ond roedd yn disgleirio nos Fercher.

Yr amser gorau i gael cipolwg yw pan fydd amodau lleol yn gweddu orau ar gyfer awyr glir - gorchudd cwmwl isel, tywydd ffafriol, a dim rhwystrau ar y gorwel - megis adeiladau neu goed.

Image
Caeredin
Caeredin yng ngolau'r lleuad nos Fercher

Dywedodd y seryddwr yr Athro Don Pollacco, o Adran Ffiseg Prifysgol Warwick: “Un o ffliwciau byd natur yw y gall maint ymddangosiadol y lleuad fod yn debyg iawn i faint yr Haul.

“Mae hyn yn digwydd oherwydd, tra bod y lleuad yn llawer llai na’r Haul, mae’n llawer agosach at y ddaear.”

Gan ychwanegu bod gan y lleuad gylchdro eliptig o amgylch y ddaear, ychwanegodd: “Nawr ein bod yn deall gylchdro'r lleuad o amgylch y ddaear gallwn siarad am leuadau uwch.

“Mae’r rhain yn digwydd pan fo lleuad llawn ar yr adeg pan mae’r lleuad agosaf at y ddaear.

“O ganlyniad, gall y lleuad edrych yn fwy (10-15%) ac yn fwy disglair (25-30%) na lleuad lawn arferol.”

Dywedodd yr Athro Pollacco: “Mae’r lleuad mor llachar fel y gallwn ei weld pan nad yw’n arbennig o dywyll neu hyd yn oed os nad yw’r tywydd yn arbennig o glir.

“Bydd i’w weld drwy’r nos ac wedi’i osod yn y gorllewin o amgylch codiad haul.”

Image
Lleuad
Y lleuad o Arsyllfa Frenhinol Greenwich, Llundain

Dywedodd Dr Greg Brown, seryddwr yn Arsyllfa Frenhinol Greenwich: “Mae mis Awst yn uno dau ddigwyddiad prin mewn seryddiaeth: lleuad las a lleuad mawr.

“Fodd bynnag, mae gan y ddau ddigwyddiad ddiffiniadau braidd yn gymhleth, ac nid oes yr un ohonynt yn cael eu derbyn yn gyffredinol.

“Y diffiniad mwyaf cyffredin o leuad las yw mai dyma’r ail leuad lawn mewn un mis calendr.”

Ychwanegodd: “Ar y llaw arall, lleuad lawn yw lleuad lawn sy’n digwydd pan fo’r lleuad yn y rhan agosaf o’i gylchdro o amgylch y ddaear, er mae'r union bellter y mae angen iddi fod i’w gwneud yn ‘super’ yn parhau yn ddadl.

“Yn ystod yr amser hwn, bydd y lleuad yn ymddangos ychydig yn fwy ac yn fwy disglair nag y mae fel arfer, er ei bod yn anodd gweld y gwahaniaeth yn ôl y llygad.”

Lluniau: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.