Rhaglen newyddion newydd i gymryd lle 'Ffeil' ar S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd rhaglen newydd yn cymryd lle Ffeil i blant a phobl ifanc.
Bydd ‘Newyddion Ni’ yn cynnig straeon newyddion a chwaraeon i’r gwylwyr mewn ffordd fwy hygyrch.
Bydd y rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu ddydd Llun 4 Medi ac yn cael ei ddangos bob dydd Llun, Mercher a Gwener yn ystod y tymor ysgol.
Ymysg y pynciau bydd yn cael eu trafod mae newid hinsawdd, hawliau dynol, chwaraeon, selebs, yn ogystal ag eitemau hirach fydd yn rhoi esboniad o straeon anodd.
Bydd rhai straeon yn cael eu hadrodd drwy lygaid plant yn ogystal – Fy Stori i. Elfen arall o’r rhaglenni ar ddyddiau Llun fydd slot Newyddion App-us, lle bydd cyfle i glywed am newyddion ysgafnach.
Wyneb newydd sbon i S4C fydd yn cyflwyno’r rhaglen - Siôn Thomos Williams o Glais, Abertawe.
Mae Siôn yn 18 oed a newydd orffen ei gyfnod yn astudio Lefel A yn yr ysgol. Tra’r oedd yn yr ysgol, roedd ganddo swydd ran amser fel coediwr (tree surgeon), ond roedd ei fryd ar fod yn gyflwynydd ers blynyddoedd.
'Syml ond difyr'
"Dwi wastad wedi gwybod ‘mod i eisiau cyflwyno – ro’n i’n mwynhau perfformio a chystadlu mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus ac ati yn yr ysgol, ond do’n i ddim yn siŵr iawn sut i dorri fewn i’r maes” meddai Siôn.
"Ro’n i hefyd yn gwybod nad o’n i eisiau mynd i’r Brifysgol ar ôl gorffen ysgol, yn bennaf oherwydd ei fod mor gostus.”
“Anfonodd Mam yr hysbyseb am y swydd yma ata i; nes i feddwl pam lai - a mynd amdani! Ar ôl creu fideo bach yn esbonio pwy oeddwn i, cyfweliad a phrawf sgrin, ro’n i mor gyffrous i gael y cyfle arbennig yma i fod ar raglen sy’n cael ei lansio o’r newydd. Dwi wedi cael lot o hyfforddiant, gan fod lot o agweddau newydd i’r swydd - fel golygu a ffilmio.
“Plant a phobl ifanc yw’r dyfodol, ac mae rhaglen newyddion sy’n darparu newyddion dibynadwy a chywir mewn ffordd syml ond difyr yn hollbwysig – yn enwedig gan fod cymaint o newyddion ffug i’w gael ar gyfryngau cymdeithasol. Dwi methu aros i ddechrau arni.”
'Blaenoriaeth i'r sianel'
Dywedodd Sharen Griffith, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C: “Mae plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i’r sianel, ac mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn newyddion.
“Mae’n bwysig felly ein bod ni’n trafod y straeon newyddion mawr ac yn cynnig rhaglen sy’n cyflwyno’r newyddion mewn ffordd ddifyr sy’n rhoi esboniad y tu ôl i rai o’r straeon yna. Ac mae cynnwys y plant a’r bobol ifanc a’u straeon nhw’n hynod bwysig hefyd, a’n bwriad gyda’r eitem Fy Stori i yw rhoi llais iddyn nhw.”
Fe fydd y rhaglen 8 munud yn cael ei dangos ar S4C Clic ar ôl 11:00 (ac ar gael ar S4C Clic am gyfnod o 48 awr), yna’n rhan o slot Stwnsh am 17:50.