Gall amrywiolyn Delta arwain at gynnydd mewn cleifion
04/06/2021
Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi cyhoeddi gall yr amrywiolyn Delta arwain at gynnydd yn y nifer o gleifion yn yr ysbyty.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig benderfynu symud Portiwgal i’r rhestr oren yn sgil pryderon am yr amrywiolyn a gafodd yn India am y tro cyntaf .
Yn ôl The Independent, Delta yw'r amrywiolyn sy’n dod y mwyaf amlwg yn y Deyrnas Unedig, gyda Bolton yng ngogledd Lloegr yn parhau i fod yr ardal â'r nifer uchaf o achosion.