Newyddion S4C

Myfyrwraig yn diolch i TikTok gan alw am fwy o ymwybyddiaeth am symptomau ADHD mewn menywod

30/08/2023

Myfyrwraig yn diolch i TikTok gan alw am fwy o ymwybyddiaeth am symptomau ADHD mewn menywod

Mae menyw ifanc yn wreiddiol o Ferthyr Tudful yn dweud bod y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn allweddol yn ei hymdrechion i geisio cael diagnosis ar gyfer y cyflwr ADHD. 

“Bydda fi byth wedi gwybod bod ganddo fi ADHD heb TikTok felly dwi’n teimlo’n rili ffodus bod hwnna ar gael i fy nghenhedlaeth i,” meddai Katie Phillips 

Mae hi'n ddiolchgar i'r cyfryngau cymdeithasol am eu hannog i ymchwilio ymhellach i'r cyflwr sy'n effeithio ar ymddygiad unigolion. Mae ADHD yn medru gwneud i rai deimlo'n aflonydd. Mae anallu i ganolbwyntio hefyd yn un o'r symptomau posibl.

Fe wyliodd Katie Phillips sawl fideo ar-lein o unigolion yn trafod eu profiadau o fyw gyda ADHD, a'r bobl hynny yn disgrifio’r symptomau yn gysylltiedig â’r cyflwr. 

Dywedodd fod trafodaethau agored ynglŷn ag ADHD wedi gwneud iddi sylweddoli bod ganddi sawl symptom, ac roedd hynny ar adeg pan nad oedd hi wedi ystyried ymholi am ddiagnosis.  

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Mae mwy o bobl yn gweld [cynnwys TikTok] ac wedyn yn sylwi bod ganddyn nhw rywbeth a gallu cael y diagnosis. 

“Dwi wedi stryglo trwy gydol fy mywyd ac o’n i’n meddwl roedd hwnna yn jyst fi. 

“Doeddwn i ddim yn gwybod bod rhywbeth underlying amdano fe.” 

Ond mae Katie Phillips yn cydnabod ei bod yn bwysig ymholi gyda gwasanaethau eraill hefyd, nid y cyfryngau cymdeithasol yn unig.  

“Dwi ddim yn credu dylse fi wedi ffeindio allan trwy TikTok,” meddai.

“Dylse fi wedi ffeindio mas trwy’r gwasanaeth iechyd, neu brifysgol, neu jyst trwy’r llywodraeth. Jyst rhywbeth fel hwnna a ddim jyst trwy gyfryngau cymdeithasol.”

‘Profiad menywod’

Yn fyfyrwraig cwrs meistr ym Mhrifysgol Abertawe, mae hi'n galw hefyd ar arbenigwyr a gwasanaethau ehangach i godi ymwybyddiaeth am symptomau ADHD ar gyfer menywod yn benodol. 

“Ti’n clywed storiâu o fenywod yn eu 40au yn cael diagnosis am awtistiaeth ac ADHD ac maen nhw wedi byw eu holl fywyd ddim yn gwybod a stryglo, felly dwi’n credu byddai hyn yn gadael i bobl cael diagnosis yn ifancach,” meddai.

Ychwanegodd: “Y ffaith dwi wedi ffeindio mas trwy TikTok, yn amlwg mae’n bositif, ond dylse fe ddim gorfod bod ar y stage hwnna. 

“Mae bechgyn yn yr ysgol yn cael eu gweld yn syth ac mae athrawon wedi cael eu hyfforddi am y symptomau felly mae’n eithaf structural bod nhw ddim yn sylwi mewn mannau hyn.

“Bydd hwnna’n well yn y dyfodol os bydd menywod yn gallu cael y diagnosis o le arall, ddim social media.” 

Mae pryderon y gallai pobl gael eu camarwain gan wybodaeth ar-lein, ond mae codi ymwybyddiaeth ynglŷn â symptomau ADHD mewn menywod yn “fater cydraddoldeb rhyw," medd arbenigwr.

Dywedodd Dr Tony Lloyd, Prif Weithredwr ADHD Foundation The Neurodiversity Charity: “Os nad ydym am weld pobl yn dibynnu ar ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol a blogwyr nad ydynt yn gymwys i gynnig cyngor ar ADHD, yna mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth iechyd cyhoeddus cymwys, fel ein llyfrynnau canllawiau i gleifion sydd ar gael ar ein gwefan, i feddygon ac ysgolion. 

“Mae’r mythau ynglŷn â bechgyn drwg aflonyddus yn parhau i fodoli oddi mewn i rai o wasanaethau’r GIG ac addysg. 

“Mae hyn yn anghywir, yn gwahaniaethu ar sail rhyw, ac yn anffodus, wedi arwain at 75% o ferched a menywod yn cael eu hanwybyddu neu’n derbyn camddiagnosis.”

‘Ymwybyddiaeth’

Mae codi ymwybyddiaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn gymorth mawr i unigolion mewn sefyllfa debyg ac yn helpu “normaleiddio’r” cyflwr, meddai Katie Phillips.

“Ni’n gweld ar social media ‘O mae pawb yn cael diagnosis nawr ac yn stretcho’r GIG.’ 

“Ond mae’r bobl sy’n cael diagnosis, maen nhw’n actually angen e. 

“Felly mae’n beth dda bod pobl nawr ddim yn mynd i fynd trwy eu bywyd nhw ddim yn gwybod.”

Mewn ymateb i brofiad Ms Phillips, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn buddsoddi mewn gwella mynediad at gymorth asesu, cyn ac ar ôl diagnosis i bobl niwroamrywiol, gan gynnwys ADHD.  

“Ar hyn o bryd rydym yn treialu ehangu llinell gymorth 24 awr C.A.L.L i gynnig cymorth i unigolion niwroamrywiol a'u teuluoedd. Gall y llinell wrando hon hefyd helpu pobl i ddod o hyd i fwy o wybodaeth.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Tîm Niwroymgyfeirio Cenedlaethol (y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol gynt) i gynhyrchu amrywiaeth o adnoddau ar gyfer oedolion ag ADHD ac ar ymarfer cwmpasu gwasanaethau ADHD sy'n bodoli eisoes i oedolion er mwyn llywio'r ddarpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.