Pengwiniaid newydd yn Sŵ Caer wedi eu henwi ar ôl perchnogion Wrecsam
Mae dau bengwin newydd yn Sŵ Caer sydd wedi eu henwi ar ôl perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi mentro i'r dŵr am y tro cyntaf.
Cafodd y ddau bengwin Humboldt eu geni ym mis Ebrill ac maen nhw wedi cael eu henwi yn Ryan Reynolds a Rob McElhenney er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r adar "eiconig".
Dywedodd Zoe Sweetman, rheolwr tîm pengwiniaid a pharotiaid yn Sŵ Caer bod y gweithwyr yn dewis un thema ar gyfer enwi'r pengwiniad bob blwyddyn.
“Bob blwyddyn mae ein tîm yn mwynhau dewis thema gwahanol ar gyfer enwi y cywion, er mwyn helpu i gael rhywfaint o'r sylw sydd ei angen ar y rhywogaeth; mi ydan ni wedi cael brandiau o greision, bariau siocled a mathau o ffrwythau o’r blaen,” meddai.
“Eleni, gan fod un o’n ceidwaid pengwin yn gefnogwr enfawr o dîm pêl-droed Wrecsam, fe benderfynon ni wneud rhywbeth ychydig yn wahanol ac enwi’r ddau ddyn newydd ar ôl perchnogion Wrecsam o Hollywood.
“Mae’r ddau mor llawn o bersonoliaeth a charisma – felly roedd yn ymddangos yn addas; mae eu sgiliau deifio wedi dod i'r amlwg yn syth bin.”
@VancityReynolds and @RMcElhenney hatch at Chester Zoo 🐧
— Chester Zoo (@chesterzoo) August 24, 2023
Yep, you heard that right...
In a bid to bring some much-needed attention to Humboldt penguins – a species that is vulnerable to extinction – one of our zookeepers has named two new chicks after the owners of their… pic.twitter.com/8eoW451RwU
Bygythiad
Pengwiniaid Humboldt, rhywogaeth sydd yn enedigol yn Chili a Periw, yw un o'r rhywogaethau "sydd yn wynebu'r bygythiad mwyaf" i'w bodolaeth.
Mae'r International Union for Conservation of Nature (IUCN) wedi gosod y rhywogaeth hon ar y rhestr goch am rywogaethau dan fygythiad.
Mae pengwiniaid Humboldt yn defnyddio eu gallu i nofio a deifio i hela am bysgod a sgwid, meddai Sŵ Caer.
Maen nhw'n cael eu hystyried yn faint "canolig," gydag uchder o 18 i 24 modfedd (46 i 61 centimetr) ac yn pwyso rhwng wyth a 14 pwys (3.6 i 5.9 cilogram).
Cadwraeth
Mae Ms Sweetman yn pwysleisio pwysigrwydd cadwraeth bywyd gwyllt yn Sŵ Caer a'r hyn sydd ei angen ei wneud i warchod dyfodol rhywogaethau fel pengwin Humboldt.
“Rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni helpu i lledaenu rhywfaint o ymwybyddiaetham bwysigrwydd cadwraeth bywyd gwyllt, ac ysbrydoli mwy o bobl i gymryd camau bach i chwarae rhan weithredol wrth ddiogelu dyfodol rhywogaethau fel y pengwin Humboldt.
“Rhai o'r pethau syml iawn y gallwn ni i gyd gwneud yw defnyddio llai o ddeunyddiau plastig untro, bwyta pysgod sydd wedi’u dal yn gynaliadwy a lleihau’r defnydd o ynni – hyd yn oed os mai dim ond ychydig – sy’n cyfrannu at gynhesu’r moroedd.”
Llun: Sŵ Caer