Cyhoeddi llun o Donald Trump ar ôl iddo gael ei arestio yn Georgia
Cafodd ‘mughsot’ Donald Trump ei gyhoeddi wedi iddo gael ei arestio yn nhalaith Georgia yn yr Unol Daleithiau.
Ef yw'r cyn-Arlywydd cyntaf yn hanes y wlad i gael ei lun wedi ei dynnu fel rhan o achos troseddol.
Dyma’r pedwerydd tro i Mr Trump gael ei gyhuddo o droseddau eleni ond dyma’r tro cyntaf i’w lun gael ei gyhoeddi ar ôl iddo gael ei arestio.
Fe gyhoeddodd Donald Trump y llun ar safle X - Twitter yn flaenorol. Dyna’r tro cyntaf iddo wneud defnydd o’i gyfrif ar y safle ers cael ei wahardd yn dilyn terfysg 6 Ionawr 2021.
Ar ôl treulio 20 munud dan glo cafodd ei ryddhau wedi iddo dalu bond mechnïaeth o $200,000 (£160,000).
“Mae’r hyn sydd wedi digwydd yma yn groes i gyfiawnder,” meddai wrth ohebwyr.
"Wnes i ddim byd o'i le, ac mae pawb yn gwybod hynny."
https://t.co/MlIKklPSJT pic.twitter.com/Mcbf2xozsY
— Donald J. Trump (@realDonaldTrump) August 25, 2023
Mae'r cyn-Arlywydd wedi ei gyhuddo yn Georgia o 11 achos, gan gynnwys rhoi pwysau ar swyddogion y dalaith i wrthod pleidleisiau dilys.
Gellir cosbi'r cyhuddiad mwyaf difrifol, sy’n cynnwys racetirio am uchafswm o 20 mlynedd yn y carchar.
Mae wedi gwadu'r cyhuddiadau ym mhob achos.
Mae 18 o bobol eraill ar y rhestr o ddiffynyddion gan gynnwys cyn-gyfreithiwr Trump Rudy Giuliani, cyn-bennaeth staff y Tŷ Gwyn Mark Meadows, cyn-gyfreithiwr y Tŷ Gwyn John Eastman a chyn-swyddog yn yr adran gyfiawnder, Jeffrey Clark.
Mae’r ditiad (indictment) yn nodi fod y cyd-gynllwynwyr honedig “yn fwriadol wedi ymuno â chynllwyn i newid canlyniad yr etholiad yn anghyfreithlon o blaid Trump”.