Newyddion S4C

Darganfod cemegau gwenwynig mewn gwellt papur

gwellt papur

Efallai nad ydi gwellt papur yn well i'r amgylchedd na phlastig, oherwydd ei fod yn cynnwys cemegau gwenwynig, yn ôl astudiaeth newydd.

Rhybuddiodd  ymchwilwyr yng Ngwlad Belg bod y cemegau yn gallu cael effeithiau hirdymor ar  iechyd pobl.

Mae nifer o wledydd gan gynnwys y DU wedi gwahardd gwerthiant deunydd plastig untro gan gynnwys gwellt.

Yn sgil hynny mae gwellt o ddeunydd gwahanol gan gynnwys papur a bambŵ wedi cael eu defnyddio yn eu lle.

Dyma'r astudiaeth gyntaf yn Ewrop i effeithiau'r gwellt papur, lle cafodd 39 brand eu profi am gemegau synthetig sydd yn cael eu cydnabod fel sylweddau poly- a perfluoroalkyl (PFAS).

Defnyddiodd ymchwilwyr 29 gwelltyn yfed gwahanol o bum deunydd - papur, bambŵ, gwydr, dur gwrthstaen a phlastig. Yn bennaf roedd y rhain o archfarchnadoedd a bwytai.

Roedd 27 o'r 39, neu 69% yn cynnwys PFAS, gydag 18 PFAS gwahanol yn cael eu canfod.

Gwellt papur oedd y mwyaf tebygol o gynnwys PFAS, gyda chemegau yn cael eu canfod mewn 90% o'r rhai gafodd eu profi.

Cafodd PFAS hefyd eu canfod mewn pedwar o bob pum brand o wellt bambŵ, tri o bob pedwar o'r brandiau gwellt plastig, a dau o bob pump o'r gwellt gwydr.

Doedd dim PFAS yn yr un o'r gwellt dur gwrthstaen.

Cyngor

Dywedodd Dr Groffen: “Gall symiau bach o PFAS, er nad ydynt yn niweidiol eu hunain, ychwanegu at y llwyth cemegol sydd eisoes yn bresennol yn y corff.

“Nid oeddem wedi canfod unrhyw PFAS mewn gwellt dur gwrthstaen, felly byddwn yn cynghori pobl i ddefnyddio’r math hwn o wellt - neu osgoi defnyddio gwellt o gwbl.

“Mae gwellt wedi'i wneud o ddeunyddiau sy'n seiliedig ar blanhigion, fel papur a bambŵ, yn aml yn cael eu hysbysebu fel rhai sy'n fwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar na'r rhai sydd wedi'u gwneud o blastig.

“Fodd bynnag, mae presenoldeb PFAS yn y gwellt hyn yn golygu nad yw hynny o reidrwydd yn wir.”

Dywedodd yr ymchwilwyr fod y crynodiadau PFAS yn isel, ac o gofio bod y rhan fwyaf o bobl yn tueddu i ddefnyddio gwellt yn achlysurol yn unig, mae'r risg i iechyd yn isel iawn.

Ond gallai PFAS aros yn y corff am nifer o flynyddoedd.

Maent wedi bod yn gysylltiedig â nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys ymateb is i frechlynnau, pwysau geni is, clefyd y thyroid, lefelau uwch o golesterol, niwed i'r afu, canser yr arennau a chanser y ceilliau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.