Newyddion S4C

Cynnydd yn yr achosion o greulondeb i gŵn yng Nghymru

25/08/2023
Creulondeb yn erbyn cwn

Mae'r achosion o greulondeb i gŵn yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ol ffigyrau RSPCA Cymru.

Deliodd y mudiad â 3,379 o adroddiadau o greulondeb i gŵn y llynedd o'i gymharu â 3,065 yn 2021 - cynnydd o 10%.

Roedd 579 yn achosion o niwed i gŵn, 45 achos lle cafodd cŵn eu gadael a 1,922 achos o esgeulustod.

Ym mis Tachwedd y llynedd daeth swyddogion o hyd i 13 o gŵn oedd yn cael eu cadw mewn "amgylchedd anaddas" mewn carafan yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd swyddogion yr RSPCA eu bod nhw wedi darganfod dau gi bach wedi marw yno tra bod Labrador wedi cael ei ddarganfod gyda'i esgyrn yn dangos.

Ychwanegodd y swyddogion: "Doedd ganddyn nhw ddim mynediad at loches addas a roedd powlenni gwag, brwnt.

"Roedd nifer o gelfi hen, bocsys gwag- nid y fath amgylchedd lle y dylai cŵn bach cael eu cadw."

Cafodd y cŵn eu cymryd dan ofal yr RSPCA a bellach mae nhw'n byw mewn cartrefi addas.

Image
Llun: RSPCA
Llun: RSPCA

'Ofnadwy'

Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd oedd â'r nifer mwyaf o adroddiadau o achosion yn 2022.

Mae gan yr RSPCA ymgyrch 'Cancel Out Cruelty' sydd yn codi arian i gynorthwyo eu gweithwyr sydd yn ymateb i'r adroddiadau hyn.

Dywedodd Gemma Cooper, dirprwy brif arolygydd RSPCA dros Orllewin a Chanolbarth Cymru bod y rhan fwyaf o alwadau i'r elusen yn ymwneud â chŵn.

"Am gannoedd o flynyddoedd mae cŵn wedi cael eu cydnabod fel ffrind gorau dyn - ac os ydych chi'n rhannu cartref gydag un byddech chi'n gwybod pam - gan eu bod nhw'n ffrindiau cariadus a theyrngar," meddai.   

"Ond mae'r ffigyrau ofnadwy yma yn adrodd stori wahanol. Cŵn yw'r anifeiliaid sydd yn cael eu cam-drin fwyaf yn y wlad ac rydym yn ymchwilio i gwynion sy'n ymwneud  â chŵn mwy nag unrhyw anifail arall."

Pryder mawr

Dywedodd Dermot Murphy, comisiynydd arolygiaeth yr RSPCA, bod creulondeb yn erbyn cŵn ar gynnydd yng Nghymru a bod hynny yn bryder mawr.

"Mae anifail yn cael ei gam-drin pob awr o'r dydd ar gyfartaledd. Mae creulondeb anifeiliaid yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a hynny ar raddfa fawr sydd yn cynyddu," meddai.

"Mae'n dorcalonnus a rydym yn gweld ffigyrau hynod o drist sydd yn dangos bod y ffigyrau yn codi.

"Dydyn ni ddim yn gwybod pam yn union mae'r ffigyrau yn codi, ond mae'r argyfwng costau byw a bywyd ar ôl y pandemig wedi creu argyfwng lles anifeiliaid.

"Mae'r argyfwng costau byw hefyd yn golygu bod cost achub anifeiliaid ar ei lefel uchaf erioed ac mae ein gwasanaethau yn dynn iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.