Newyddion S4C

Llanc wedi bygwth torri braich Aled Jones i ffwrdd wrth ddwyn ei oriawr Rolex

24/08/2023
aled jones.png

Fe wnaeth llanc ifanc fygwth torri braich Aled Jones i ffwrdd wrth iddo ddwyn ei oriawr gwerth Rolex gwerth £17,000 yng ngolau dydd.

Roedd y canwr 52 oed yn cerdded gyda'i fab ar hyd stryd fawr Chiswick yng ngorllewin Llundain am tua 17:40 ar 7 Gorffennaf pan ymosododd y bachgen 16 oed arno. Does dim modd ei enwi oherwydd ei oed. 

Roedd disgwyl i'r llanc sefyll ei brawf yn Llys Ieuenctid Wimbledon ddydd Iau ond plediodd yn euog i ladrata a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant ar ôl cyrraedd yn hwyr i'r achos. 

Dywedodd yr erlynydd Robert Simpson: "Roedd Aled Jones yn cerdded gyda'i fab pan ddaeth llanc ato yn gwisgo top a throwsus du ac esgidiau du.

"Fe wnaeth y diffynnydd estyn cyllell machete a bygwth torri ei fraich i ffwrdd yn ogystal â gwneud sawl bygythiad arall er mwyn cael yr oriawr yr oedd Aled Jones yn ei gwisgo.

"Rhoddodd Aled Jones yr oriawr iddo ar unwaith ac fe redodd y diffynnydd i ffwrdd."

Edrychodd yr heddlu ar luniau CCTV o'r ardal ac fe gafodd y llanc ifanc ei arestio yn ei gartref yng ngorllewin Llundain. 

Clywodd y llys bod y machete wedi ei ddarganfod yn ei ystafell.

Arhosodd Mr Jones a'i fab ar linc fideo am bron i ddwy awr er mwyn rhoi tystiolaeth cyn cael gwybod bod y llanc wedi pledio'n euog wedi'r cwbl.  Diolchodd y canwr i staff y llys.

Dywedodd y barnwr wrth y llanc fod y drosedd yn "ddifrifol iawn iawn".Cafodd y llanc ei ryddhau ar fechnïaeth ond mae'n rhaid iddo fyw a chysgu mewn lle sy'n cael ei bennu gan yr awdurdod lleol. 

Bydd yr achos yn cael ei glywed nesaf yn Llys Ieuenctid Ealing ar 12 Medi ond dywedodd y barnwr wrth y diffynnydd y gallai gael ei anfon i Lys y Goron i gael ei ddedfrydu ar ôl hynny. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.